Hysbysu'r Bwrdd Ystadegau pan roddir caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau ar y sail ym mharagraff 1(1)(f)
7. Pan roddir caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau ar y sail ym mharagraff 1(1)(f) rhaid i'r person cyfrifol roi gwybod i'r Bwrdd Ystadegau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol am y canlynol—
(a)enw'r ystadegau y rhoddwyd caniatâd i'w gweld;
(b)enw a swydd yr unigolyn y rhoddwyd y caniatâd i'w gweld iddo;
(c)o ba ddyddiad ac amser y rhoddwyd caniatâd i'w gweld i'r unigolyn hwnnw; ac
(ch)esboniad o'r rheswm dros roi caniatâd i'w gweld.