Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig4
1
At ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig yng Nghymru.
2
Caiff y swyddog fynd ar y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i gynorthwyo'r swyddog hwnnw wrth ei ddyletswyddau ac, at y diben hwnnw, caiff fynnu bod y cwch yn stopio a gwneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso mynd ar y cwch.
3
Caiff y swyddog fynnu bod y meistr a phersonau eraill ar y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad neu ymholiad sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn angenrheidiol at y diben o orfodi'r Gorchymyn hwn fel y'i darllenir gyda'r Ddeddf ac, yn arbennig—
a
caiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch ac offer y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a'i gwneud yn ofynnol bod personau sydd ar y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad;
b
caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd ar y cwch gynhyrchu unrhyw ddogfen sydd dan gadwad neu ym meddiant y person hwnnw ac sy'n ymwneud â'r cwch, gweithrediadau pysgota'r cwch neu weithrediadau eraill sy'n ategol i hynny neu sy'n ymwneud â'r personau sydd ar y cwch a chaiff wneud copïau o unrhyw ddogfen o'r fath;
c
at ddibenion canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni tramgwydd o dan y Ddeddf fel y'i darllenir gyda'r Gorchymyn hwn, caiff archwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a mynnu bod unrhyw berson ar y cwch yn gwneud unrhyw beth sydd, yn nhyb y swyddog, ei angen i hwyluso'r archwiliad; ac
ch
os oes gan y swyddog reswm dros amau fod y cwch yn un y mae tramgwydd o'r fath wedi ei gyflawni mewn cysylltiad ag ef, caiff yn ddarostyngedig i baragraff (4) ddal gafael ar a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gynhyrchwyd neu a ganfyddwyd ar fwrdd y cwch at y diben o allu defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos llys am y tramgwydd.
4
Nid oes dim ym mharagraff (3)(ch) yn caniatáu i unrhyw ddogfen, y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, gael ei chipio a'i chadw ac eithrio tra bydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.
5
Pan fydd yn ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn wedi'i thorri ar unrhyw adeg, caiff y swyddog—
a
mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd cyfleus agosaf yn ei dyb ef, neu fynnu bod meistr y cwch yn gwneud hynny; a
b
cadw'r cwch yn y porthladd, neu fynnu bod meistr y cwch yn gwneud hynny;
a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch neu'n ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn cael ei gadw, rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y caiff y cwch ei gadw neu ei bod yn ofynnol ei gadw hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
6
Yn yr erthygl hon, ystyr “swyddog” (“officer”) yw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.