Search Legislation

Gorchymyn Gwahardd Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2009

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig

4.—(1At ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig yng Nghymru.

(2Caiff y swyddog fynd ar y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i gynorthwyo'r swyddog hwnnw wrth ei ddyletswyddau ac, at y diben hwnnw, caiff fynnu bod y cwch yn stopio a gwneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso mynd ar y cwch.

(3Caiff y swyddog fynnu bod y meistr a phersonau eraill ar y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad neu ymholiad sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn angenrheidiol at y diben o orfodi'r Gorchymyn hwn fel y'i darllenir gyda'r Ddeddf ac, yn arbennig—

(a)caiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch ac offer y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a'i gwneud yn ofynnol bod personau sydd ar y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad;

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd ar y cwch gynhyrchu unrhyw ddogfen sydd dan gadwad neu ym meddiant y person hwnnw ac sy'n ymwneud â'r cwch, gweithrediadau pysgota'r cwch neu weithrediadau eraill sy'n ategol i hynny neu sy'n ymwneud â'r personau sydd ar y cwch a chaiff wneud copïau o unrhyw ddogfen o'r fath;

(c)at ddibenion canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni tramgwydd o dan y Ddeddf fel y'i darllenir gyda'r Gorchymyn hwn, caiff archwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a mynnu bod unrhyw berson ar y cwch yn gwneud unrhyw beth sydd, yn nhyb y swyddog, ei angen i hwyluso'r archwiliad; ac

(ch)os oes gan y swyddog reswm dros amau fod y cwch yn un y mae tramgwydd o'r fath wedi ei gyflawni mewn cysylltiad ag ef, caiff yn ddarostyngedig i baragraff (4) ddal gafael ar a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gynhyrchwyd neu a ganfyddwyd ar fwrdd y cwch at y diben o allu defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos llys am y tramgwydd.

(4Nid oes dim ym mharagraff (3)(ch) yn caniatáu i unrhyw ddogfen, y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, gael ei chipio a'i chadw ac eithrio tra bydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.

(5Pan fydd yn ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn wedi'i thorri ar unrhyw adeg, caiff y swyddog—

(a)mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd cyfleus agosaf yn ei dyb ef, neu fynnu bod meistr y cwch yn gwneud hynny; a

(b)cadw'r cwch yn y porthladd, neu fynnu bod meistr y cwch yn gwneud hynny;

a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch neu'n ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn cael ei gadw, rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y caiff y cwch ei gadw neu ei bod yn ofynnol ei gadw hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

(6Yn yr erthygl hon, ystyr “swyddog” (“officer”) yw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources