Dehongli2.

(1)

Yn y Gorchymyn hwn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “cragen fylchog” (“scallop”) yw cragen o'r rhywogaeth Pecten maximus;

  • ystyr “cwch pysgota Prydeinig” (“British fishing boat”) yw cwch pysgota sydd naill ai wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 19953 neu sydd dan berchnogaeth lwyr personau sy'n gymwys i berchnogi llongau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o'r Ddeddf honno;
  • mae i “Cymru” (“Wales”) yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20064;
  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967.