2009 Rhif 2706 (Cy.225)
Y DRETH GYNGOR, CYMRUARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gorchymyn y Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Cyfathrebiadau Electronig) (Cymru) 2009
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, (a) gan ystyried fod awdurdodi defnyddio cyfathrebiadau electronig gan y Gorchymyn hwn at unrhyw ddiben yn gyfryw ag na fyddai'r rhychwant (os oes un) y bydd cofnodion o bethau a wnaed at y diben hwnnw ar gael yn llai boddhaol mewn achosion lle defnyddir cyfathrebiadau electronig nac mewn achosion eraill; (b) gyda chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol1; ac (c) drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 8 a 10 o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 20002 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy3 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: