Cyfrifo anghenion cyllideb (awdurdodau bilio)

2.  Mae adran 32 o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel pe bai—

(a)yn is-adran (3)(a)(1), y geiriau “or relevant special grant” wedi eu hepgor; a

(b)ar ôl is-adran (12), yr is-adran ganlynol wedi ei mewnosod(2)

(12A) In this section and section 33 below—

(a)references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.1) 2009—2010 (Final Settlement — Councils) approved by resolution of the National Assembly for Wales pursuant to section 84H(2)(3) of, and paragraph 11B(1)(4) of Schedule 8 to, the Local Government Finance Act 1988 on 13 January 2009; and

(b)references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report..

(1)

Diwygiwyd adran 32(3)(a) gan baragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1994 (O.S. 1994/246) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1995 (O.S. 1995/234). Fe'i diwygiwyd hefyd mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2008—2009 gan reoliad 2(a) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/476 (Cy.42)).

(2)

Mewnosodwyd adran 32(12A) mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2008—2009 gan reoliad 2(b) o O.S. 2008/476 (Cy.42).

(3)

1988 p.41; amnewidiwyd adran 84H (am adran 84H fel y'i mewnosodwyd gan adran 40(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26) ac Atodlen 2 iddi) gan erthygl 3 o Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) 2007 (O.S. 2007/1388) ac Atodlen 1 iddo.

(4)

Amnewidiwyd paragraff 11B(1) (am baragraff 11B(1) fel y'i mewnosodwyd gan adran 40(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, ac Atodlen 2 iddi) gan erthygl 3 o O.S. 2007/1388, ac Atodlen 1 iddo.