xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
29 Medi 2009
Yn dod i rym
1 Hydref 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 11(6) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) a pharagraff 22(1) a (3) a pharagraff 23(3) a (7) o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno ac adran 18(4) a pharagraff 9(1), (3), (5) a (9) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, a chyda chytundeb y Bwrdd Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol perthnasol yn unol â pharagraff 22(2) o Atodlen 2 a pharagraff 9(7) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, yn eu trefn drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn hwn.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trosglwyddo Ystad Weddilliol) (Cymru) 2009, a daw i rym ar 1 Hydref 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr “corff Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service body”) yw'r corff perthnasol a restrir yng ngholofn 2 o'r Atodlen;
ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Hydref 2009;
“yr ystad weddilliol” (“the residual estate”) yw'r ystad honno a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen.
3.—(1) Trosglwyddir yr ystad weddilliol i'r corff Gwasanaeth Iechyd Gwladol perthnasol o'r dyddiad trosglwyddo.
(2) Rhaid i'r corff Gwasanaeth Iechyd Gwladol perthnasol gadw at delerau unrhyw les a drosglwyddwyd iddo yn rhinwedd yr erthygl hon.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
29 Medi 2009
Erthygl 2
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 | Colofn 4 |
---|---|---|---|
Ystad Weddilliol | Corff Gwasanaeth Iechyd Gwladol | Teitl | Rhif Cofrestrfa Tir |
Canolfan Iechyd Blaenafon, Church Road, Blaenafon NP4 9AF | BILl Aneurin Bevan | Rhydd-ddaliadol | CYM438269 |
15 Lodge Road, Caerllion, NP18 3RA | BILl Aneurin Bevan | Rhydd-ddaliadol | CYM438829 |
Clinig Cwmfelin-fach, New Street, Cwmfelin-fach, Ynys-ddu | BILl Aneurin Bevan | Rhydd-ddaliadol | P170393 |
Kenfy, Y Fenni | BILl Aneurin Bevan | Rhydd-ddaliadol | WA816527 |
Ysbyty Llanfrechfa Grange, Cwmbrân | BILl Aneurin Bevan | Rhydd-ddaliadol | CYM195387 |
Cronfa ddŵr i'r gogledd ddwyrain o Maindiff Court Farm Cottages, Llandeilo Bertholau, Y Fenni | BILl Aneurin Bevan | Rhydd-ddaliadol | CYM458015 |
Ysbyty St Cadocs, Lodge Road, Caerllion NP18 3XQ | BILl Aneurin Bevan | Rhydd-ddaliadol | CYM438831 |
Ysbyty Abergele | BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr | Rhydd-ddaliadol | CYM324609 |
Ysbyty Bryn Seiont | BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr | Rhydd-ddaliadol | CYM214130 |
Fferm a thir Ysbyty Bryn-y-neuadd | BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr | Rhydd-ddaliadol | CYM147728 |
Ysbyty Dobshill ger Bwcle | BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr | Rhydd-ddaliadol | CYM72241 |
Tir i'r de o Valley Road, Llanfairfechan (Nant y Pandy) | BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr | Rhydd-ddaliadol | CYM141402 |
Tir cyffiniol ag Ysbyty Cefni, Stryd y Bont, Llangefni | BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr | Rhydd-ddaliadol | CYM450232 |
Eryl Don, Lôn Campbell, Caernarfon LL55 1HU | BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr | Rhydd-ddaliadol | CYM438180 |
Ysbyty Lluesty, Treffynnon | BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr | Rhydd-ddaliadol | CYM324609 |
Berwyn House/Cambrian House a thir, Parc Technoleg Wrecsam | BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr | Rhydd-ddaliadol | WA951201 |
Lesddaliadol | WA652749 | ||
Lesddaliadol | CYM19063 | ||
Ysgol Nyrsio Fronheulog, Bangor | BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr | Lesddaliadol | WA733812 |
Preswylfa, Ffordd Hendy, Yr Wyddgrug CH7 1PZ | BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr | Rhydd-ddaliadol | CYM364741 |
7/9 Lôn Abaty, Bangor LL57 2EA | BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr | Rhydd-ddaliadol | CYM440984 |
Ysbyty Brenhinol Caerdydd | BILl Prifysgol Caerdydd a'r Fro | Rhydd-ddaliadol | CYM34760 |
WA 449128 | |||
CYM447570 | |||
CYM44005 | |||
CYM455603 | |||
Adain y Gorllewin, Glossop Terrace, Caerdydd | BILl Prifysgol Caerdydd a'r Fro | Rhydd-ddaliadol | WA449104 |
WA438545 | |||
Longcross House, CRI, Caerdydd | BILl Prifysgol Caerdydd a'r Fro | Rhydd-ddaliadol | CYM174267 |
Swyddfeydd Lansdowne, Sanatorium Road, Caerdydd CF11 8PL | BILl Prifysgol Caerdydd a'r Fro | Rhydd-ddaliadol | CYM439824 |
Ysbyty Bryntirion, Heol Goffa, Llanelli | BILl Hywel Dda | Rhydd-ddaliadol | CYM116277 |
Clwydian House, Parc Technoleg Wrecsam, Wrecsam | Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru | Lesddaliadol | WA540800 |
Y Deml Heddwch, King Edward VII Ave, Caerdydd CF10 3AP | Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru | Rhydd-ddaliadol | CYM245532 |
Yr Orsaf Ambiwlans, Lôn Newydd, Llangefni | Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru | Rhydd-ddaliadol | CYM440750 |
Yr Orsaf Ambiwlans, Chester Road West, Queensferry, Glannau Dyfrdwy CH5 1SA | Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru | Rhydd-ddaliadol | CYM440593 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer trosglwyddo'r ystad weddilliol oddi ar Weinidogion Cymru i'r cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn o 1 Hydref 2009 ymlaen.