1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trosglwyddo Ystad Weddilliol) (Cymru) 2009, a daw i rym ar 1 Hydref 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr “corff Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service body”) yw'r corff perthnasol a restrir yng ngholofn 2 o'r Atodlen;
ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Hydref 2009;
“yr ystad weddilliol” (“the residual estate”) yw'r ystad honno a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen.
3.—(1) Trosglwyddir yr ystad weddilliol i'r corff Gwasanaeth Iechyd Gwladol perthnasol o'r dyddiad trosglwyddo.
(2) Rhaid i'r corff Gwasanaeth Iechyd Gwladol perthnasol gadw at delerau unrhyw les a drosglwyddwyd iddo yn rhinwedd yr erthygl hon.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
29 Medi 2009