
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Natur a swyddogaethau'r ymddiriedolaeth
3.—(1) Sefydlir yr ymddiriedolaeth at y diben a bennir yn adran 18(1) o'r Ddeddf.
(2) Dyma swyddogaethau'r ymddiriedolaeth:
(a)darparu i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, neu mewn perthynas ag ef, a rheoli amrediad o wasanaethau iechyd cyhoeddus, diogelu iechyd, gwella gofal iechyd, cynghori ar iechyd, amddiffyn plant a labordy microbiolegol a gwasanaethau'n ymwneud â gwyliadwriaeth dros glefydau trosglwyddadwy, a'u hatal a'u rheoli;
(b)datblygu a chynnal trefniadau ar gyfer peri bod gwybodaeth ynghylch materion sy'n ymwneud â diogelu a gwella iechyd yng Nghymru ar gael i'r cyhoedd yng Nghymru; gwneud a chomisiynu ymchwil i faterion o'r fath a darparu a datblygu hyfforddiant mewn materion o'r fath;
(c)gwneud yn systematig y gwaith o gasglu, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth ynghylch iechyd pobl Cymru, gan gynnwys yn enwedig fynychder achosion o gancr, eu marwoldeb a'u goroesiad; a chyffredinolrwydd anghysonderau cynhenid; ac
(ch)darparu, rheoli, monitro, gwerthuso a gwneud ymchwil i sgrinio cyflyrau iechyd a sgrinio materion ymwneud ag iechyd.
Back to top