Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Medi 2009 adrannau 36, 37, 38 a 42 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008, ac Atodlen 4 iddi, i'r graddau a bennir yn y Gorchymyn. Mae'r cyfeiriad, yn Erthygl 2(ch) o'r Gorchymyn, at ddiddymu'n rhannol adran 91(10) o Ddeddf Plant 1989, yn gyfeiriad at hepgor y geiriau “or 12(5)” o'r adran honno.