2009 Rhif 1921 (Cy.175) (C.91)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009

Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 40 a 44(3) a (5) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 20081, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, dehongli a chymhwyso1.

(1)

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009.

(2)

Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008.

(3)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y diwrnod penodedig2.

Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym yw 1 Medi 2009—

(a)

adran 36 (hawl perthynas i wneud cais am orchymyn preswylio);

(b)

adran 37 (hyd gorchmynion preswylio);

(c)

adran 38 (hawl perthynas i wneud cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig); ac

(ch)

adran 42 ac Atodlen 4 (diddymiadau) i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 12(5) a (6) o Deddf Plant 19892 ac â diddymu'n rhannol adran 91(10) o'r Ddeddf honno.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Medi 2009 adrannau 36, 37, 38 a 42 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008, ac Atodlen 4 iddi, i'r graddau a bennir yn y Gorchymyn. Mae'r cyfeiriad, yn Erthygl 2(ch) o'r Gorchymyn, at ddiddymu'n rhannol adran 91(10) o Ddeddf Plant 1989, yn gyfeiriad at hepgor y geiriau “or 12(5)” o'r adran honno.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y Ddarpariaeth

Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 30

6 Ebrill 2009

2009/728 (Cy.64) (C.47)

Adran 31

1 Ebrill 2009

2009/268 (C.11)

Adran 32

1 Ebrill 2009

2009/268 (C.11)

Adran 35

6 Ebrill 2009

2009/728 (Cy.64) (C.47)

Adran 42 ac Atodlen 4 i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 45(9) o Ddeddf Plant 1989

6 Ebrill 2009

2009/728 (Cy.64) (C.47)