2. Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym yw 1 Medi 2009—
(a)adran 36 (hawl perthynas i wneud cais am orchymyn preswylio);
(b)adran 37 (hyd gorchmynion preswylio);
(c)adran 38 (hawl perthynas i wneud cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig); ac
(ch)adran 42 ac Atodlen 4 (diddymiadau) i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 12(5) a (6) o Deddf Plant 1989(1) ac â diddymu'n rhannol adran 91(10) o'r Ddeddf honno.