xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu 15 Gorffennaf 2009 fel y diwrnod y daw'r Cod Derbyniadau Ysgol (“y Cod”) a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 84 a 85 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“DSFfY 1998”) i rym. Mae'r Cod yn gymwys o ran Cymru. Mae'r Cod yn disodli Cod Ymarfer y Swyddfa Gymreig ar Dderbyniadau Ysgol a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 1999.
Mae'r Cod yn gosod gofynion ac yn cynnwys canllawiau sy'n pennu nodau, amcanion neu faterion eraill ynglŷn â'r trefniadau ar gyfer derbyn i ysgolion. O dan adran 84(3) o DSFfY 1998, dyletswydd awdurdodau addysg lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, fforymau derbyn a phaneli apêl, wrth arfer swyddogaethau o dan Bennod 1 o Ran 3 o DSFfY 1998, yw gweithredu yn unol ag unrhyw ddarpariaethau perthnasol o'r Cod. Yn ychwanegol, rhaid i unrhyw berson arall, wrth arfer unrhyw swyddogaeth at y diben o gyflawni, gan awdurdod addysg lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir, swyddogaethau o dan y Bennod honno, weithredu yn unol ag unrhyw ddarpariaethau perthnasol o'r Cod.
Mae'r fersiwn ddiwygiedig o'r Cod yn adlewyrchu newidiadau yn y gyfraith a wnaed gan adrannau 150, 152 a 153 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (“DAS 2008”):
Mae adran 150 o DAS 2008 yn mewnosod adran 86A yn DSFfY 1998. Mae hon yn gosod dyletswydd newydd ar awdurdodau addysg lleol i wneud trefniadau i blant fynegi dewis ynglŷn â pha ysgol y dymunant gael addysg chweched dosbarth ynddi, neu i blant sydd dros yr oedran ysgol gorfodol fynegi dewis ynglŷn â pha ysgol y dymunant gael addysg ac eithrio addysg chweched dosbarth ynddi.
Mae'r Cod hefyd yn adlewyrchu newidiadau a wnaed yn y categorïau o ddisgyblion y ceir eu cyfrif yn ddisgyblion a eithrir er mwyn cydymffurfio â'r ddyletswydd o dan adran 1 o DSFfY 1998. Cyflwynwyd y categorïau newydd a diwygiedig gan Reoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) (Diwygio) 2009 O.S. 2009/828 (Cy.75).
Mae'r Cod hefyd yn amlygu ac yn gosod dyletswyddau newydd ar awdurdodau addysg lleol a chyrff llywodraethu mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol o ganlyniad i Reoliadau Addysg (Derbyn Plant sy'n Derbyn Gofal) (Cymru) 2009 O.S. 2009/821 (Cy.72).