Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1) 2009

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 1796 (Cy.163) (C.88)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1) 2009

Gwnaed

4 Gorffennaf 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 53(2) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol.

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1) 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

Y diwrnod penodedig

2.  17 Gorffennaf 2009 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Mesur ddod i rym—

(a)Adran 1.

(b)Adran 2(2) a (3).

(c)Adran 4.

(ch)Adran 5.

(d)Adran 6.

(dd)Adran 7.

(e)Adran 8(1) i (6) yn gynhwysol.

(f)Adran 15(8) a (9).

(ff)Adran 16.

(g)Adran 25.

(ng)Adran 31.

(h)Adran 32.

(i)Adran 35.

(j)Adran 36.

(l)Adran 38.

(ll)Adran 45.

(m)Adran 47.

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

4 Gorffennaf 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Dyma'r gorchymyn cychwyn cyntaf a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 17 Gorffennaf 2009 y darpariaethau hynny yn y Mesur a bennir yn erthygl 2 o'r Gorchymyn.