xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gwnaed
4 Gorffennaf 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 53(2) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol.
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1) 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
2. 17 Gorffennaf 2009 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Mesur ddod i rym—
(a)Adran 1.
(b)Adran 2(2) a (3).
(c)Adran 4.
(ch)Adran 5.
(d)Adran 6.
(dd)Adran 7.
(e)Adran 8(1) i (6) yn gynhwysol.
(f)Adran 15(8) a (9).
(ff)Adran 16.
(g)Adran 25.
(ng)Adran 31.
(h)Adran 32.
(i)Adran 35.
(j)Adran 36.
(l)Adran 38.
(ll)Adran 45.
(m)Adran 47.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
4 Gorffennaf 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Dyma'r gorchymyn cychwyn cyntaf a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 17 Gorffennaf 2009 y darpariaethau hynny yn y Mesur a bennir yn erthygl 2 o'r Gorchymyn.