Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) 2009

Diwygiadau canlyniadol

7.  Gwneir y diwygiadau canlyniadol a ganlyn—

(a)ym mharagraff 16 o Ran 2 o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006(1)

(i)yn lle “Local Health Boards (Functions) (Wales) Regulations 2003” rhodder “Local Health Boards (Directed Functions) (Wales) Regulations 2009”,

(ii)yn is-baragraff (c) yn lle “3(1)” rhodder “4”,

(iii)dileer is-baragraff (d); a

(b)yn y Cyfarwyddiadau i Fwrdd Iechyd Lleol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe a Bwrdd Iechyd Lleol Sir Fynwy (2006) a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2006, yng nghyfarwyddyd 2(1) yn lle “Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) 2009”.