2009 Rhif 1382 (Cy.138)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 21 a 203(10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 1 o Atodlen 4 2006 iddi1 a chyda chydsyniad y Trysorlys yn unol â pharagraff 1(7) o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a Chychwyn1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) (Diwygio) 2009 a daw i rym ar 9 Mehefin 2009.
Diwygio Cyfalaf Cychwynnol Ymddiriedolaethau GIG2.
(1)
Mae Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 20092 wedi ei diwygio fel a ganlyn;
(2)
Yn lle'r Atodlen i Orchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2009, rhodder yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
ATODLEN
“ATODLEN
Ymddiriedolaeth GIG
Cyfalaf Cychwynnol
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg3£484,807,000
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf4£277,694,000
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda5£205,722,000
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru6£306,609,000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn yn diwygio swm y cyfalaf cychwynnol a ddarparwyd ar gyfer Ymddiriedolaethau penodol o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Ngorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaethau Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2009.