2009 Rhif 1356 (Cy.131)

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywogaethau Cadwraeth) (Cymru) 2009

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, y breinir y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1) i (5A) a 36 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 19641 ynddynt yn awr2, yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau hynny.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal ymgynghoriad yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno.