Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “adeg sydd yn sensitif i draffig” (“traffic-sensitive time”), o ran stryd sydd yn sensitif i draffig, yw—
- a
yr amseroedd neu'r dyddiadau sydd wedi eu pennu yn achos dynodiad cyfyngedig; a
- b
unrhyw adeg mewn unrhyw achos arall;
- a
ystyr “Awdurdod Trwyddedau” (“Permit Authority”) yw—
- a
awdurdod priffyrdd lleol y gwnaed gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan adran 34(4) o Ddeddf 2004; neu
- b
Gweinidogion Cymru, fel awdurdod priffyrdd, y gwnaed gorchymyn mewn perthynas â hwy o dan adran 35(2) o'r Ddeddf honno,
sydd yn gweithredu cynllun trwyddedau;
- a
ystyr “categori ffordd” (“road category”) yw un o'r categorïau ffordd a bennir ym mharagraff 1.3.1 o Bennod S1 o'r cod ymarfer sy'n dwyn y teitl “Manyleb ar gyfer Adfer Agorfeydd mewn Priffyrdd”, sy'n ddyddiedig Tachwedd 20063 ac a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ar 7 Tachwedd 2006, fel y mae wedi ei ddiwygio neu ei ailgyhoeddi o bryd i'w gilydd;
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 20004;
ystyr “cyfeiriad” (“address”), mewn perthynas â dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig, yw unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion dull trosglwyddo o'r fath;
ystyr “cyfnod rhagnodedig” (“prescribed period”) yw'r cyfnod a ragnodir gan reoliad 6;
ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 19845;
ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991;
ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig 20046;
ystyr “diwrnod” (“day”) yw diwrnod gwaith;
ystyr “dynodiad cyfyngedig” (“limited designation”) yw dynodiad yn unol â rheoliad 16(3) o Reoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) (Rhif 2) 20087, ar gyfer amseroedd penodol neu ar ddyddiadau penodol;
ystyr “echel safonol” (“standard axle”) yw echel sy'n rhoi grym o 80 cilo Newton;
ystyr “y Fanyleb Dechnegol” (“the Technical Specification”) yw'r Fanyleb Dechnegol ar gyfer Trosglwyddiad Electronig o Hysbysiadau a gynhyrchwyd gan yr Adran Drafnidiaeth ac sy'n ddyddiedig Rhagfyr 2008, fel y caiff ei diwygio neu ei hailgyhoeddi o bryd i'w gilydd;8
ystyr “gorchymyn cynllunio ar gyfer cerddwyr” (“pedestrian planning order”) yw gorchymyn a wnaed o dan adran 249(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19909;
ystyr “gorchymyn traffig” (“traffic order”) yw gorchymyn a wnaed o dan adran 1 neu 9 o Ddeddf 1984;
mae “gwaith adfer” (“remedial works”) yn waith a gyflawnir o dan adran 72(3) o Ddeddf 1991;
mae “gwaith brys” (“urgent works”)—
- a
yn golygu gwaith stryd, ar wahân i waith argyfwng, y mae gofyn ei gyflawni ar yr adeg y caiff ei gyflawni (neu y mae'r sawl sy'n gyfrifol am y gwaith yn credu ar sail resymol fod gofyn hynny)—
- i
er mwyn atal neu roi terfyn ar doriad anghynlluniedig ar unrhyw gyflenwad neu wasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan ymgymerydd;
- ii
er mwyn osgoi colled sylweddol i ymgymerydd mewn perthynas â gwasanaeth presennol; neu
- iii
er mwyn ailgysylltu cyflenwadau neu wasanaethau pan fyddai gan ymgymerydd atebolrwydd sifil neu droseddol pe bai'r ailgysylltu'n cael ei ohirio tan ar ôl i'r cyfnod hysbysiad priodol ddod i ben; a
- i
- b
yn cynnwys gwaith na ellir ei wahanu'n rhesymol oddi wrth waith o'r fath.
- a
ystyr “gwaith di-oed” (“immediate works”) yw gwaith brys neu waith argyfwng10;
ystyr “gwaith mawr” (“major works”) yw—
- a
gwaith stryd sydd wedi ei nodi yn rhaglen weithredu flynyddol ymgymerydd, neu a fuasai fel rheol yn gynlluniedig ac yn hysbys o leiaf chwe mis cyn dyddiad arfaethedig y gwaith, er nad oedd wedi ei nodi'n benodol mewn rhaglen o'r fath;
- b
gwaith stryd, ar wahân i waith di-oed—
- i
pan fo'r awdurdod strydoedd wedi dangos i ymgymerydd, neu
- ii
pan fo'r ymgymerydd o'r farn,
fod gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf 1984 (gwaharddiad dros dro neu gyfyngiad ar ffyrdd) yn angenrheidiol; neu
- i
- c
gwaith stryd, ar wahân i waith di-oed, y mae ei hyd arfaethedig yn fwy na deng niwrnod;
- a
ystyr “gwaith safonol” (“standard works”), ac eithrio fel y darperir yn rheoliad 8(8), yw gwaith stryd, ar wahân i waith di-oed neu waith mawr, y mae ei hyd arfaethedig yn fwy na thri diwrnod ond yn ddim mwy na deng niwrnod;
mae i “llwybr ceffylau”, “llwybr troed” a “troedffordd” yr ystyron a roddir i “bridleway”, “footpath” a “footway” yn adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 198011;
ystyr “mân waith” (“minor works”), ac eithrio fel y darperir yn rheoliad 8(8), yw gwaith stryd, ar wahân i waith di-oed neu waith mawr, y mae ei hyd arfaethedig yn ddim mwy na thri diwrnod;
ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) 199212;
ystyr “stryd sydd yn sensitif i draffig” (“traffic-sensitive street”) yw stryd sydd wedi ei dynodi'n un sensitif i draffig o dan adran 64 o Ddeddf 1991;
mae “trwydded” (“permit”) a “cynllun trwyddedau” (“permit scheme”) i gael eu dehongli yn unol ag adran 32 o Ddeddf 2004; ac
ystyr “ymgymerydd statudol” (“statutory undertaker”) yw person sydd â'r hawl, yn rhinwedd hawl statudol, i gyflawni gwaith stryd.