Search Legislation

Rheoliadau Gwaith Stryd (Taliadau am Feddiannaeth a Ymestynnir yn Afresymol ar y Briffordd) (Cymru) 2009

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “adeg sydd yn sensitif i draffig” (“traffic-sensitive time”), o ran stryd sydd yn sensitif i draffig, yw—

    (a)

    yr amseroedd neu'r dyddiadau sydd wedi eu pennu yn achos dynodiad cyfyngedig; a

    (b)

    unrhyw adeg mewn unrhyw achos arall;

  • ystyr “Awdurdod Trwyddedau” (“Permit Authority”) yw—

    (a)

    awdurdod priffyrdd lleol y gwnaed gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan adran 34(4) o Ddeddf 2004; neu

    (b)

    Gweinidogion Cymru, fel awdurdod priffyrdd, y gwnaed gorchymyn mewn perthynas â hwy o dan adran 35(2) o'r Ddeddf honno,

    sydd yn gweithredu cynllun trwyddedau;

  • ystyr “categori ffordd” (“road category”) yw un o'r categorïau ffordd a bennir ym mharagraff 1.3.1 o Bennod S1 o'r cod ymarfer sy'n dwyn y teitl “Manyleb ar gyfer Adfer Agorfeydd mewn Priffyrdd”, sy'n ddyddiedig Tachwedd 2006(1) ac a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ar 7 Tachwedd 2006, fel y mae wedi ei ddiwygio neu ei ailgyhoeddi o bryd i'w gilydd;

  • mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(2);

  • ystyr “cyfeiriad” (“address”), mewn perthynas â dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig, yw unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion dull trosglwyddo o'r fath;

  • ystyr “cyfnod rhagnodedig” (“prescribed period”) yw'r cyfnod a ragnodir gan reoliad 6;

  • ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(3);

  • ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991;

  • ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig 2004(4);

  • ystyr “diwrnod” (“day”) yw diwrnod gwaith;

  • ystyr “dynodiad cyfyngedig” (“limited designation”) yw dynodiad yn unol â rheoliad 16(3) o Reoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2008(5), ar gyfer amseroedd penodol neu ar ddyddiadau penodol;

  • ystyr “echel safonol” (“standard axle”) yw echel sy'n rhoi grym o 80 cilo Newton;

  • ystyr “y Fanyleb Dechnegol” (“the Technical Specification”) yw'r Fanyleb Dechnegol ar gyfer Trosglwyddiad Electronig o Hysbysiadau a gynhyrchwyd gan yr Adran Drafnidiaeth ac sy'n ddyddiedig Rhagfyr 2008, fel y caiff ei diwygio neu ei hailgyhoeddi o bryd i'w gilydd;(6)

  • ystyr “gorchymyn cynllunio ar gyfer cerddwyr” (“pedestrian planning order”) yw gorchymyn a wnaed o dan adran 249(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(7);

  • ystyr “gorchymyn traffig” (“traffic order”) yw gorchymyn a wnaed o dan adran 1 neu 9 o Ddeddf 1984;

  • mae “gwaith adfer” (“remedial works”) yn waith a gyflawnir o dan adran 72(3) o Ddeddf 1991;

  • mae “gwaith brys” (“urgent works”)—

    (a)

    yn golygu gwaith stryd, ar wahân i waith argyfwng, y mae gofyn ei gyflawni ar yr adeg y caiff ei gyflawni (neu y mae'r sawl sy'n gyfrifol am y gwaith yn credu ar sail resymol fod gofyn hynny)—

    (i)

    er mwyn atal neu roi terfyn ar doriad anghynlluniedig ar unrhyw gyflenwad neu wasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan ymgymerydd;

    (ii)

    er mwyn osgoi colled sylweddol i ymgymerydd mewn perthynas â gwasanaeth presennol; neu

    (iii)

    er mwyn ailgysylltu cyflenwadau neu wasanaethau pan fyddai gan ymgymerydd atebolrwydd sifil neu droseddol pe bai'r ailgysylltu'n cael ei ohirio tan ar ôl i'r cyfnod hysbysiad priodol ddod i ben; a

    (b)

    yn cynnwys gwaith na ellir ei wahanu'n rhesymol oddi wrth waith o'r fath.

  • ystyr “gwaith di-oed” (“immediate works”) yw gwaith brys neu waith argyfwng(8);

  • ystyr “gwaith mawr” (“major works”) yw—

    (a)

    gwaith stryd sydd wedi ei nodi yn rhaglen weithredu flynyddol ymgymerydd, neu a fuasai fel rheol yn gynlluniedig ac yn hysbys o leiaf chwe mis cyn dyddiad arfaethedig y gwaith, er nad oedd wedi ei nodi'n benodol mewn rhaglen o'r fath;

    (b)

    gwaith stryd, ar wahân i waith di-oed—

    (i)

    pan fo'r awdurdod strydoedd wedi dangos i ymgymerydd, neu

    (ii)

    pan fo'r ymgymerydd o'r farn,

    fod gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf 1984 (gwaharddiad dros dro neu gyfyngiad ar ffyrdd) yn angenrheidiol; neu

    (c)

    gwaith stryd, ar wahân i waith di-oed, y mae ei hyd arfaethedig yn fwy na deng niwrnod;

  • ystyr “gwaith safonol” (“standard works”), ac eithrio fel y darperir yn rheoliad 8(8), yw gwaith stryd, ar wahân i waith di-oed neu waith mawr, y mae ei hyd arfaethedig yn fwy na thri diwrnod ond yn ddim mwy na deng niwrnod;

  • mae i “llwybr ceffylau”, “llwybr troed” a “troedffordd” yr ystyron a roddir i “bridleway”, “footpath” a “footway” yn adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980(9);

  • ystyr “mân waith” (“minor works”), ac eithrio fel y darperir yn rheoliad 8(8), yw gwaith stryd, ar wahân i waith di-oed neu waith mawr, y mae ei hyd arfaethedig yn ddim mwy na thri diwrnod;

  • ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) 1992(10);

  • ystyr “stryd sydd yn sensitif i draffig” (“traffic-sensitive street”) yw stryd sydd wedi ei dynodi'n un sensitif i draffig o dan adran 64 o Ddeddf 1991;

  • mae “trwydded” (“permit”) a “cynllun trwyddedau” (“permit scheme”) i gael eu dehongli yn unol ag adran 32 o Ddeddf 2004; ac

  • ystyr “ymgymerydd statudol” (“statutory undertaker”) yw person sydd â'r hawl, yn rhinwedd hawl statudol, i gyflawni gwaith stryd.

(2)

2000 p.7. Cafodd Adran 15(1) ei diwygio gan Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p.21), adran 406(1) ac Atodlen 17, paragraff 158.

(3)

1984 p.27. Cafodd adrannau 1, 6 a 9 eu diwygio gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), adran 168 ac Atodlen 8, paragraffau 17, 21 a 23, a'u haddasu gan Reoliadau Tramiau a Cherbydau Troli (Addasu Deddfiadau) 1992 (O.S. 1992/1217) (“y Rheoliadau Tramiau”). Cafodd adrannau 1 a 6 eu diwygio'n ogystal gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 36. Cafodd adran 1 ei diwygio'n ogystal gan Ddeddf Trafnidiaeth 2000, adran 161 ac Atodlen 11, paragraffau 6 a 7.. Cafodd adrannau 6 a 9 eu diwygio gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51), adran 8 ac Atodlen 5, paragraff 4, a chafodd adran 9 ei diwygio'n ogystal gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.27), adran 48 ac Atodlen 4, paragraff 24. Cafodd adran 14 ei hamnewid gan Ddeddf Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991 (p.26), adran 1(1) ac Atodlen 1 a'i haddasu gan y Rheoliadau Tramiau.

(6)

Mae hon ar gael o www.dft.gov.uk.

(7)

1990 p.8. Cafodd adran 249(2) ei diwygio gan Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p.29), adran 270, Atodlen 22, paragraff 5.

(8)

Gweler adran 52 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22) am y diffiniad o “waith argyfwng” (“emergency works”).

(10)

O.S.1992/2985; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/990 a 2128 a 1999/1049. Cafodd Rheoliadau 1992 eu datgymhwyso o ran Cymru gan Reoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2008 (O.S. 2008/540 (Cy.52)), rheoliad 2, yn ddarostyngedig i drefniadau trosiannol sydd wedi eu cynnwys yn rheoliad 19.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources