xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Cynnwys Cynlluniau Trwyddedau

Gwaith penodedig

6.—(1Rhaid i gynllun trwyddedau bennu'r gwaith (neu'r mathau o waith) y mae'r cynllun trwyddedau wedi'i lunio i'w rheoli (a rhaid i'r gwaith hwnnw fod yn “waith penodedig” at ddibenion y cynllun trwyddedau hwnnw).

(2Bydd y gwaith penodedig a ddisgrifir mewn cynllun trwyddedau wedi'i ffurfio o waith stryd a gwaith at ddibenion ffyrdd.

(3Rhaid i waith penodedig ar gyfer cynllun trwyddedau beidio â chynnwys gwaith a gyflawnir mewn stryd yn unol â thrwydded gwaith stryd a ddyroddwyd o dan adran 50 o Ddeddf 1991 (trwyddedau gwaith stryd).

Ardal benodedig

7.  Rhaid i gynllun trwyddedau bennu'r ardal y mae'r broses o wneud y gwaith penodedig i'w rheoli ynddi (a rhaid i'r ardal honno fod yn “ardal benodedig” at ddibenion y cynllun trwyddedau hwnnw).

Strydoedd penodedig

8.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn, rhaid i gynllun trwyddedau bennu'r strydoedd (neu'r mathau o strydoedd) o fewn ei ardal benodedig y mae'r rheolaethau ar wneud gwaith penodedig i'w cymhwyso iddynt (a rhaid i'r strydoedd hyn fod yn “strydoedd penodedig” at ddibenion y cynllun trwyddedau hwnnw).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff cynllun trwyddedau bennu unrhyw strydoedd, nad ydynt yn briffyrdd y gellir eu cynnal ar draul y cyhoedd, yn strydoedd y mae rheolaethau ar wneud gwaith penodedig i fod yn gymwys iddynt.

(3Caiff cynllun trwyddedau bennu stryd nad yw'n briffordd y gellir ei chynnal ar draul y cyhoedd, yn stryd y mae rheolaethau ar waith penodedig i fod yn gymwys iddi —

(a)os yw'r Awdurdod Trwyddedau'n rhag-weld y daw'r stryd yn briffordd y gellir ei chynnal ar draul y cyhoedd; a

(b)mae'r cynllun trwyddedau yn darparu bod y rheolaethau ar waith penodedig ddim ond yn gymwys o ran gwaith yn y stryd honno a wneir ar ôl i'r stryd ddod yn briffordd y gellir ei chynnal ar draul y cyhoedd.

(4Caiff cynllun trwyddedau bennu strydoedd yn strydoedd y mae rheolaethau ar y broses o wneud gwaith penodedig yn gymwys iddynt er nad yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y strydoedd hynny yw'r awdurdod trwyddedau.

Trwyddedau

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i gynllun trwyddedau gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael trwydded gan yr Awdurdod Trwyddedau cyn bod gwaith penodedig yn cael ei wneud mewn stryd benodedig.

(2Rhaid i gynllun trwyddedau bennu personau (neu fathau o bersonau) nad yw'r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys iddynt a'r amgylchiadau (neu fathau o amgylchiadau) nad yw'r gofyniad hwnnw'n gymwys ynddynt.

(3Rhaid i gynllun trwyddedau bennu'r wybodaeth a fydd yn mynd gyda chais am drwydded, a chaniateir iddo bennu ym mha fodd ac o fewn pa gyfnod y dylid cyflwyno ceisiadau o'r fath.

(4Rhaid i gynllun trwyddedau ei gwneud yn ofynnol i bob cais am drwydded gael ei gyfyngu i un stryd.

(5Rhaid i gynllun trwyddedau ei gwneud yn ofynnol i bob cais am drwydded neu am amrywio trwydded roi amcangyfrif o barhad tebygol y gwaith sy'n destun y cais hwnnw.

(6Rhaid i gynllun trwyddedau ddarparu bod pob trwydded yn pennu'r cyfnod amser pryd y bydd y gwaith penodedig ar stryd benodedig wedi'i awdurdodi gan y drwydded honno.

(7Caiff cynllun trwyddedau ddarparu bod dosbarthiadau gwahanol o drwydded yn ofynnol mewn perthynas ag amgylchiadau gwahanol.

(8Caiff cynllun trwyddedau ddarparu, pan fo bwriad i wneud y gwaith penodedig perthnasol mewn mwy nag un is-gyfnod, fod yn rhaid cael trwydded ar wahân mewn cysylltiad â phob is-gyfnod.

(9Rhaid i gynllun trwyddedau gynnwys darpariaeth i'w gwneud yn ofynnol i gopi o bob cais am drwydded gael ei ddarparu gan y ceisydd, pan ofynnir am gopi o'r fath, i unrhyw awdurdod perthnasol ac i unrhyw berson arall a chanddo offer yn y stryd y mae'r cais yn ymwneud â hi.

Yr amodau a osodir ar drwyddedau

10.—(1Rhaid i gynllun trwyddedau gynnwys darpariaeth bod yr Awdurdod Trwyddedau yn gosod amodau ar drwyddedau, a rhaid i'r cynllun trwyddedau bennu'r mathau o amod y caiff yr Awdurdod Trwyddedau eu gosod.

(2Heb leihau effaith paragraff (1) yn gyffredinol, mae'r mathau o amod y caiff yr Awdurdod Trwyddedau eu gosod ar drwyddedau o dan y paragraff hwnnw yn cynnwys amodau ynghylch —

(a)diwrnodau pan na chaniateir i waith trwydded gael ei wneud;

(b)amserau'r dydd pan na chaniateir i waith trwydded gael ei wneud;

(c)yr ardal (gan gynnwys ardaloedd nad ydynt yn rhan o'r stryd) y caniateir ei meddiannu'n gysylltiedig â'r gwaith trwydded;

(ch)gwahardd traffig neu gyfyngu arno yn unol â gorchmynion neu hysbysiadau o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (gwahardd dros dro neu gyfyngu dros dro ar ffyrdd)(1);

(d)trefniadau rheoli traffig sydd i'w gwneud yn gysylltiedig â'r gwaith trwydded (gan gynnwys trefniadau er budd penodol personau sydd ag anabledd);

(dd)ym mha fodd y bwriedir gwneud y gwaith penodedig;

(e)ymgynghori a chyhoeddusrwydd mewn perthynas â'r gwaith penodedig, gan gynnwys rhoi gwybodaeth ar ddangos yn y man lle mae'r gwaith hwnnw; ac

(f)hysbysu o'r cynnydd mewn perthynas â'r gwaith penodedig.

(3Caiff y mathau o amod y caniateir i'r Awdurdod Trwyddedau eu gosod ar drwydded mewn cysylltiad â gwaith trwydded sydd i'w wneud gan neu ar ran awdurdod priffyrdd gynnwys hefyd amodau —

(a)sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod priffyrdd ymgynghori ag unrhyw berson a chanddo offer y mae'r gwaith trwydded yn debyg o effeithio arnynt; a

(b)sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod priffyrdd gymryd pob cam sy'n rhesymol ymarferol i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a wnaed gan y person hwnnw ac sy'n rhesymol angenrheidiol i ddiogelu'r offer neu i ddiogelu mynediad iddynt.

(4Rhaid i gynllun trwyddedau ddarparu y caiff yr Awdurdod Trwyddedau ddirymu trwydded pan fo'n ymddangos i'r Awdurdod Trwyddedau fod amod sydd wedi'i osod ar y drwydded honno wedi'i dorri.

(5Yn y rheoliad hwn, mae “trefniadau rheoli traffig” (“traffic management arrangements”) yn cynnwys arwyddion, signalau, marciau ffyrdd, atalfeydd a mesurau eraill sydd wedi'u bwriadu i sicrhau bod cerbydau traffig ac unrhyw draffig arall (gan gynnwys cerddwyr) yn cael symud yn hwylus, yn gyfleus ac yn ddiogel.

Blaenawdurdodiadau dros dro

11.—(1Caiff cynllun trwyddedau gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael blaenawdurdodiad dros dro ar gyfer gwaith penodedig neilltuol mewn strydoedd penodedig fel rhan o'r cais am ddosbarthiadau penodol o drwydded.

(2Pan fo cynllun trwyddedau yn cynnwys darpariaeth o'r fath, rhaid iddo bennu'r wybodaeth y mae'n rhaid iddi fynd gyda chais am flaenawdurdodiad dros dro, a chaiff bennu ym mha ddull y mae ceisiadau o'r fath i'w cyflwyno ac o fewn pa amser y mae'n rhaid eu cyflwyno.

(3Rhaid i bob cais am flaenawdurdodiad dros dro gael ei gyfyngu i un stryd.

(4Pan fo cynllun trwyddedau'n ei gwneud yn ofynnol i gael blaenawdurdodiad dros dro fel rhan o'r cais am waith penodedig mewn strydoedd penodedig, rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau ystyried, wrth benderfynu a ddylid dyroddi trwydded, a yw'r ceisydd wedi cael awdurdodiad o'r fath.

(5Ni fydd rhoi blaenawdurdodiad dros dro yn atal yr Awdurdod Trwyddedau rhag penderfynu peidio â rhoi'r drwydded y mae'r awdurdodiad hwnnw'n ymwneud â hi.

(6Rhaid i gynllun trwyddedau gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol bod copi o bob cais am flaenawdurdodiad dros dro yn cael ei ddarparu gan y ceisydd pan ofynnir amdano gan awdurdod perthnasol a'i ddarparu i unrhyw berson arall y mae offer ganddo yn y stryd y mae'r cais yn ymwneud â hi.

Rhif au cyfeirnod trwyddedau

12.  Rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau neilltuo Rhif cyfeirnod unigryw i bob trwydded y mae'n ei dyroddi.

Amodau ar waith nad yw'r gofyniad i gael trwydded yn gymwys iddo

13.—(1Caiff cynllun trwyddedau —

(a)pennu amodau; a

(b)cynnwys darpariaeth i'r Awdurdod Trwyddedau bennu amodau,

a fydd yn gymwys i waith penodedig a wneir mewn strydoedd penodedig y datgymhwysir, yn rhinwedd darpariaeth a wnaed yn y cynllun o dan reoliad 9(2), ofyniad yn y cynllun hwnnw i gael trwydded cyn dechrau gwneud y gwaith hwnnw.

(2Rhaid i'r amodau hynny fod yn amodau o'r mathau a bennir yn y cynllun trwyddedau o dan reoliad 10(1) i (3).

(3Pan fo cynllun trwyddedau'n gwneud unrhyw ddarpariaeth a ganiateir o dan baragraff(1)(b), rhaid iddo hefyd —

(a)pennu drwy ba ddull y gall y rhai sy'n ymgymryd â'r gwaith nodi unrhyw amodau sy'n gymwys i'r gwaith cyn iddynt ddechrau, a

(b)pennu sut y tynnir sylw'r rhai sy'n ymgymryd â'r gwaith hwnnw at unrhyw amrywiadau i'r amodau sy'n gymwys.

(4Bydd yr amodau hynny'n peidio â bod yn gymwys pan fo unrhyw drwydded sy'n ofynnol yn cael ei dyroddi.

Y meini prawf sydd i'w cymryd i ystyriaeth gan yr Awdurdod Trwyddedau

14.—(1Pan fo hysbysiad wedi'i ddyroddi o dan adran 58(1) o Ddeddf 1991 (cyfyngu ar waith ar ôl gwaith ffyrdd sylweddol)(2) mewn cysylltiad â stryd benodedig, a bod cais am drwydded neu flaenawdurdodiad dros dro yn cael ei wneud mewn cysylltiad â gwaith sydd i'w wneud yn ystod y cyfnod rhagnodedig, rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau, wrth ystyried y cais hwnnw, roi sylw i'r materion canlynol—

(a)a gafodd y ceisydd gopi o'r hysbysiad; a

(b)a hysbysodd y ceisydd, o fewn y cyfnod a bennwyd yn yr hysbysiad ar gyfer ymatebion i'r hysbysiad hwnnw, yr Awdurdod Trwyddedau (neu, os yw'n wahanol, yr awdurdod strydoedd a ddyroddodd yr hysbysiad) o'r gwaith sydd bellach yn yr arfaeth.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “y cyfnod rhagnodedig” (“the prescribed period”) yw'r cyfnod a bennir yn rheoliad 11(2) o Reoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2008(3).

Adolygu, amrywio a dirymu trwyddedau ac amodau trwyddedau

15.—(1Rhaid i gynllun trwyddedau gynnwys darpariaeth i'r Awdurdod Trwyddedau gael pŵer i amrywio a dirymu trwyddedau ac amodau trwyddedau.

(2Rhaid i gynllun trwyddedau bennu'r wybodaeth sy'n mynd gyda chais am amrywio neu ddirymu trwydded neu amodau trwydded, a chaiff bennu ym mha fodd ac o fewn pa gyfnod y mae'r cais hwnnw i'w gyflwyno.

(3Rhaid i gynllun trwyddedau gynnwys datganiad o bolisi'r Awdurdod Trwyddedau ynghylch yr amgylchiadau y bydd yn adolygu, yn amrywio neu'n dirymu trwydded ac amodau trwydded odanynt ar ei liwt ei hun.

Terfynau amser ar Awdurdod Trwyddedau

16.—(1Rhaid i gynllun trwyddedau bennu o fewn pa derfynau amser y mae'n rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau ymateb i geisiadau am drwyddedau, blaenawdurdodiadau dros dro, amrywiadau i drwyddedau ac amrywiadau i amodau trwyddedau.

(2Caniateir i derfynau amser gwahanol gael eu gosod ar gyfer achosion gwahanol.

(3Os na fydd Awdurdod Trwyddedau'n caniatáu nac yn gwrthod cais a gwblhawyd yn briodol o fewn y terfyn amser sy'n gymwys, bernir bod y cais wedi'i ganiatáu, a chymerir bod unrhyw amcangyfrif o barhad tebygol y gwaith, sy'n destun y cais am drwydded neu am amrywio trwydded a hwnnw'n amcangyfrif a ddarperir yn y cais hwnnw, yn gyfnod rhesymol at ddibenion adran 74(1) o Ddeddf 1991 (ffi am feddiannu'r briffordd pan fo gwaith yn cael ei estyn yn afresymol).

(1)

1984 p.27. Amnewidiwyd adran 14 gan Ddeddf Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991 (p.26), adran 1(1) ac Atodlen 1.

(2)

Diwygiwyd adran 58(1) gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adran 51(1) a (2).