xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Trwyddedau Rheoli Traffig (Cymru) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Mehefin 2009.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “amod trwydded” (“permit condition”) yw amod a osodir ar drwydded yn rhinwedd darpariaeth a wneir mewn cynllun trwyddedau o dan reoliad 10 neu amod a bennir mewn cynllun trwyddedau o dan reoliad 13;
mae i'r term “ardal benodedig” (“specified area”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 7;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
mae i “awdurdod perthnasol” yr un ystyr â “relevant authority” yn adran 49(6) o Ddeddf 1991;
mae i “awdurdod strydoedd” yr ystyr a roddir i “street authority” yn adran 49(1) o Ddeddf 1991 (diffinio'r awdurdod strydoedd ac awdurdodau perthnasol eraill);
ystyr “Awdurdod Trwyddedau” (“Permit Authority”), o ran cynllun trwyddedau, yw'r awdurdod neu'r awdurdodau priffyrdd lleol perthnasol sydd wedi cyflwyno, neu sy'n bwriadu cyflwyno, y cynllun trwyddedau hwnnw i Weinidogion Cymru o dan adran 33(1) neu (2) o Ddeddf 2004 (paratoi cynlluniau trwyddedau);
ystyr “blaenawdurdodiad dros dro” (“provisional advance authorisation”) yw awgrym ei bod yn debygol y câi trwydded ar gyfer gwaith penodol sydd yn yr arfaeth ei rhoi yn y dyfodol;
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig (dehongli'n gyffredinol)(1);
ystyr “cyfnod amser” a “parhad” (“duration”) yw talm o amser parhaus ac mae'n cynnwys talm o amser y gellir ei asesu drwy gyfeirio at amser dechrau ac amser gorffen a ddarparwyd;
ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991(2);
ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig 2004;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn unrhyw ddydd sydd, o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(3), yn ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr;
mae i “gwaith at ddibenion ffyrdd” yr ystyr a roddir i “works for road purposes” yn adran 86(2) o Ddeddf 1991 (awdurdodau priffyrdd, priffyrdd a materion cysylltiedig);
mae i'r term “gwaith penodedig” (“specified works”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 6;
ystyr “gwaith trwydded” (“permit works”) yw gwaith a awdurdodwyd drwy drwydded;
mae “gwasanaethau brys” (“emergency services”) yn cynnwys —
gwasanaethau heddlu, gwasanaethau tân, gwasanaethau achub a gwasanaethau ambiwlans; a
Gwylwyr Glannau Ei Mawrhydi;
ystyr “is-gyfnod” (“phase”), mewn perthynas â gwaith penodedig, yw cyfnod pryd y meddiennir stryd yn ddi-dor a phryd y gwneir rhan o'r gwaith hwnnw;
ac eithrio pan fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae “offer” (“apparatus”) yn cynnwys carthffos, traen neu dwnnel yn ogystal ag unrhyw adeiledd i osod offer ynddo neu i gael mynediad i offer;
mae i'r term “strydoedd penodedig” (“specified streets” ) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 8;
ystyr “trwydded” (“permit”) yw awdurdodiad gan yr Awdurdod Trwyddedau sy'n caniatáu i waith penodedig neilltuol gael ei wneud ar un stryd benodedig am gyfnod amser penodedig; ac
ystyr “ymgymerwr statudol” (“statutory undertaker”) yw person sydd â hawl yn rhinwedd hawl statudol i wneud gwaith stryd.
(2) Tramgwyddau cosb benodedig yw'r tramgwyddau a nodir yn rheoliadau 19 ac 20 at ddibenion Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn.
2000 p.7. Diwygiwyd adran 15(1) gan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p.21), adran 406(1) ac Atodlen 17, paragraff 158.