Offerynnau Statudol Cymru
2009 Rhif 1260 (Cy.112)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Tai (Rhoi Tenantiaethau yn lle Tenantiaethau a Derfynwyd) (Olynydd-landlordiaid) (Cymru) 2009
Gwnaed
19 Mai 2009
Yn dod i rym
20 Mai 2009
Yn unol ag adran 320(8) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008(1), cafodd drafft o'r offeryn hwn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 24 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno;
(1)