2009 Rhif 1035 (Cy.90)
Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2009
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 21 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 1 o Atodlen 4 iddi1 ac yn unol â pharagraff 1(7) o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, Cychwyn a Dehongli1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2009 a daw i rym ar 23 Ebrill 2009.
2
Yn y Gorchymyn hwn ystyr “yr Atodlen” yw'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Cyfalaf Cychwynnol Ymddiriedolaethau'r GIG2
Cyfalaf cychwynnol ymddiriedolaeth GIG a bennir yng ngholofn 1 yr atodlen yw'r swm a bennir gyferbyn ag ef yng ngholofn 2 yr Atodlen
YR ATODLEN
Ymddiriedolaeth GIG | Cyfalaf Cychwynnol |
|---|---|
Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe Bro Morgannwg2 | £485,420,000 |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf3 | £277,694,000 |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda4 | £165,253,000 |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru5 | £306,609,000 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)