2008 Rhif 935 (Cy.95)
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ceredigion a Chanolbarth Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008
Gwnaed
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ceredigion a Chanolbarth Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.
2
Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall:
ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 April 2008;
ystyr “yr hen ymddiriedolaeth” (“the old trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ceredigion a Chanolbarth Cymru a sefydlwyd ar 16 Tachwedd 1992;
ystyr “yr ymddiriedolaeth newydd” (“the new trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda a sefydlwyd ar 12 Mawrth 2008.
Trosglwyddo cyflogeion i'r trosglwyddai2
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth yn cael ei drosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogid felly a'r ymddiriedolaeth newydd.
2
Heb ragfarnu paragraff (1) uchod —
a
yn rhinwedd yr erthygl hon, bydd yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;
b
bernir bod popeth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi o ran y contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, wedi ei wneud, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.
3
Nid yw paragraffau (1) a (2) yn rhagfarnu yn erbyn unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'w amodau gwaith, ond ni fydd hawl o'r fath yn codi dim ond oherwydd y newid mewn cyflogwr y rhoddir effaith iddo gan yr erthygl hon.
Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau3
Ar y dyddiad trosglwyddo bydd holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad—
a
y ddyletswydd i baratoi cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth ac i gyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;
b
eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 1;
c
elusennau'r hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 2.
Trosglwyddo swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd4
Trosglwyddir holl swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd a byddant yn cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.
ATODLEN 1
Eiddo | Deiliadaeth (a rhif teitl pan fo'n gymwys) |
|---|---|
Ysbyty | |
Ysbyty Aberaeron | Rhydd-ddaliad (WA767824) |
Ysbyty Cyffredinol Bronglais (gan gynnwys swyddfeydd yr Ymddiriedolaeth) | Rhydd-ddaliad (WA791292) Rhydd-ddaliad (WA750253) Rhydd-ddaliad (WA751368) Rhydd-ddaliad (WA556447) Rhydd-ddaliad (WA763771) Rhydd-ddaliad (WA763773) Rhydd-ddaliad (WA784029) Rhydd-ddaliad (WA816231) Rhydd-ddaliad (CYM31161) |
Ysbyty Aberteifi a'r Cylch | Rhydd-ddaliad (WA832737) |
Ysbyty Tregaron | Rhydd-ddaliad (WA825649) |
Tir gerddi y tu ôl i'r Bryn | Rhydd-ddaliad (CYM241645) |
Canolfannau Iechyd | |
Canolfan Iechyd Aberteifi | Rhydd-ddaliad (WA788880) |
Clinigau | |
Clinig Llanbedr Pont Steffan | Rhydd-ddaliad (WA830020) |
Clinig Ffordd y Gogledd, Aberystwyth | Rhydd-ddaliad (WA825763) |
Amrywiol | |
Wern, Ffordd Caradoc, Aberystwyth | Rhydd-ddaliad (WA474814) |
2, Plas Danycoed, Aberystwyth | Lesddaliad |
4, Plas Danycoed, Aberystwyth | Lesddaliad |
46, Danycoed, Aberystwyth | Lesddaliad |
Swyddfeydd Pantyfedwen , 9 Stryd y Farchnad, Aberystwyth | Lesddaliad |
ATODLEN 2
Cronfa Gyffredinol Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion a Chanolbarth Cymru (gan gynnwys pob is-elusen) — Rhif elusen 1052231.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)