- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
28 Mawrth 2008
Yn dod i rym
1 Ebrill 2008
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), a pharagraff 29 o Atodlen 3 iddi, mae Gweinidogion Cymru, ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad fel a ragnodwyd o dan baragraff 29(4) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn hwn.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ceredigion a Chanolbarth Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall:
ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 April 2008;
ystyr “yr hen ymddiriedolaeth” (“the old trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ceredigion a Chanolbarth Cymru a sefydlwyd ar 16 Tachwedd 1992;
ystyr “yr ymddiriedolaeth newydd” (“the new trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda a sefydlwyd ar 12 Mawrth 2008.
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth yn cael ei drosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogid felly a'r ymddiriedolaeth newydd.
(2) Heb ragfarnu paragraff (1) uchod —
(a)yn rhinwedd yr erthygl hon, bydd yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;
(b)bernir bod popeth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi o ran y contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, wedi ei wneud, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn rhagfarnu yn erbyn unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'w amodau gwaith, ond ni fydd hawl o'r fath yn codi dim ond oherwydd y newid mewn cyflogwr y rhoddir effaith iddo gan yr erthygl hon.
3. Ar y dyddiad trosglwyddo bydd holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad—
(a)y ddyletswydd i baratoi cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth ac i gyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;
(b)eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 1;
(c)elusennau'r hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 2.
4. Trosglwyddir holl swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd a byddant yn cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2008
Erthygl 3(b)
| Eiddo | Deiliadaeth (a rhif teitl pan fo'n gymwys) |
|---|---|
| Ysbyty | |
| Ysbyty Aberaeron | Rhydd-ddaliad (WA767824) |
| Ysbyty Cyffredinol Bronglais (gan gynnwys swyddfeydd yr Ymddiriedolaeth) | Rhydd-ddaliad (WA791292) Rhydd-ddaliad (WA750253) Rhydd-ddaliad (WA751368) Rhydd-ddaliad (WA556447) Rhydd-ddaliad (WA763771) Rhydd-ddaliad (WA763773) Rhydd-ddaliad (WA784029) Rhydd-ddaliad (WA816231) Rhydd-ddaliad (CYM31161) |
| Ysbyty Aberteifi a'r Cylch | Rhydd-ddaliad (WA832737) |
| Ysbyty Tregaron | Rhydd-ddaliad (WA825649) |
| Tir gerddi y tu ôl i'r Bryn | Rhydd-ddaliad (CYM241645) |
| Canolfannau Iechyd | |
| Canolfan Iechyd Aberteifi | Rhydd-ddaliad (WA788880) |
| Clinigau | |
| Clinig Llanbedr Pont Steffan | Rhydd-ddaliad (WA830020) |
| Clinig Ffordd y Gogledd, Aberystwyth | Rhydd-ddaliad (WA825763) |
| Amrywiol | |
| Wern, Ffordd Caradoc, Aberystwyth | Rhydd-ddaliad (WA474814) |
| 2, Plas Danycoed, Aberystwyth | Lesddaliad |
| 4, Plas Danycoed, Aberystwyth | Lesddaliad |
| 46, Danycoed, Aberystwyth | Lesddaliad |
| Swyddfeydd Pantyfedwen , 9 Stryd y Farchnad, Aberystwyth | Lesddaliad |
Erthygl 3(c)
Cronfa Gyffredinol Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion a Chanolbarth Cymru (gan gynnwys pob is-elusen) — Rhif elusen 1052231.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ceredigion a Chanolbarth Cymru i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda o 1 Ebrill 2008 ymlaen.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer trosglwyddo holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ceredigion a Chanolbarth Cymru i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda ar 1 Ebrill 2008.
Rheoliadau Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymgynghori ar Sefydlu a Diddymu) 1996, O.S. 1996/653, sy'n parhau i gael effaith yn rhinwedd paragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006. p.43.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: