Trosglwyddo cyflogeion i'r trosglwyddai2
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth yn cael ei drosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogid felly a'r ymddiriedolaeth newydd.
2
Heb ragfarnu paragraff (1) uchod —
a
yn rhinwedd yr erthygl hon, bydd yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;
b
bernir bod popeth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi o ran y contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, wedi ei wneud, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.
3
Nid yw paragraffau (1) a (2) yn rhagfarnu yn erbyn unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'w amodau gwaith, ond ni fydd hawl o'r fath yn codi dim ond oherwydd y newid mewn cyflogwr y rhoddir effaith iddo gan yr erthygl hon.