2008 Rhif 934 (Cy.94)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ceredigion a Chanolbarth Cymru (Diddymu) 2008
Gwnaed
Yn dod i rym
Enwi a chychwyn1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ceredigion a Chanolbarth Cymru (Diddymu) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.
Diddymu Ymddiriedolaeth GIG2.
Diddymir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ceredigion a Chanolbarth Cymru a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ceredigion a Chanolbarth Cymru (Sefydlu) 19923 ac, yn unol â hynny, dirymir y Gorchymyn hwnnw.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diddymu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ceredigion a Chanolbarth Cymru ar 1 Ebrill 2008.