Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ceredigion a Chanolbarth Cymru (Diddymu) 2008
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2011-07-05
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diddymu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ceredigion a Chanolbarth Cymru ar 1 Ebrill 2008.
2008 Rhif 934 (Cy.94)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ceredigion a Chanolbarth Cymru (Diddymu) 2008
Gwnaed
Yn dod i rym
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061 a pharagraff 28(1) o Atodlen 3 iddi, mae Gweinidogion Cymru, ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodwyd o dan baragraff 28(3) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno2, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: