Trosglwyddo cyflogeion i'r trosglwyddai2

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth yn cael ei drosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogid felly a'r ymddiriedolaeth newydd.

2

Heb ragfarnu paragraff (1) uchod —

a

yn rhinwedd yr erthygl hon, bydd yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;

b

bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi o ran y contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, wedi ei wneud, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.

3

Nid yw paragraffau (1) a (2) uchod yn rhagfarnu yn erbyn unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'w amodau gwaith, ond ni fydd hawl o'r fath yn codi dim ond oherwydd y newid mewn cyflogwr y rhoddir effaith iddo gan yr erthygl hon.