Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.
2
Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall;
ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) “yw 1 Ebrill 2008;
ystyr “yr hen ymddiriedolaeth” (“the old trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg a sefydlwyd ar 4 Ionawr 1999;
ystyr “yr ymddiriedolaeth newydd” (“the new trust”) yw Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe Bro Morgannwg a sefydlwyd ar 12 Mawrth 2008.