(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Pontypridd a Rhondda i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf o 1 Ebrill 2008 ymlaen.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer trosglwyddo holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Pontypridd a Rhondda i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf ar 1 Ebrill 2008.