2008 Rhif 789 (Cy.83)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) (Diwygio) 2008

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 7 a 37 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 ac a freiniwyd ynddynt bellach1, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn1.

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) (Diwygio) 2008. Mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 15 Ebrill 2008.

Diwygio2.

Mae Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 20032 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn —

(a)

yn erthygl 3, ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

“(1A)

Nid yw'r erthygl hon yn gymwys yn yr amgylchiadau a nodir yn atodlen 1A.”;

(b)

yn erthygl 3, hepgorer paragraff (6);

(c)

mewnosoder yr Atodlen a ganlyn —

“ATODLEN 1AAMGYLCHIADAU PAN NA FO ERTHYGL 3 YN GYMWYS

Teithiau a wneir o fewn menter ffermio unigol

1.

Cludo anifeiliaid o fewn menter ffermio unigol o dan un berchenogaeth.

Teithiau rhwng yr un ddau bwynt

2.

(1)

Cludo anifeiliaid —

(a)

rhwng yr un ddau bwynt;

(b)

yn ystod un diwrnod; ac

(c)

mewn cyfrwng cludo a ddefnyddir at y diben hwnnw yn unig,

os cydymffurfir ag erthygl 3 o ran y teithiau cyntaf ac olaf yn ystod diwrnod.

(2)

Yn y paragraff hwn, mae cludo anifeiliaid yn digwydd yn ystod un diwrnod hyd yn oed os —

(a)

dechreuir y daith olaf ond nas cwblheir ar y diwrnod dan sylw; a

(b)

yn achos anifail carnog a fu'n cymryd rhan mewn digwyddiad a ddigwyddodd neu'n sy'n parhau i ddigwydd yn noswaith y diwrnod dan sylw, yw'r daith olaf yn dechrau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd y digwyddiad hwnnw, p'un a yw'n dechrau cyn hanner nos ai peidio.

(3)

Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys i deithiau rhwng dwy set o safleoedd gwerthu.

Teithiau yn ôl ac ymlaen i sioeau da byw

3.

Cludo anifeiliaid o'u mangre tarddiad i sioe da byw ac yn ôl, mewn amgylchiadau heblaw'r amgylchiadau a nodir ym mharagraff 2, os—

(a)

yw'r cyfrwng cludo a ddefnyddir i gludo'r anifeiliaid hynny yn mynd yn uniongyrchol o'r safle tarddiad i'r sioe ac nad yw'n ymadael â'r sioe cyn y daith yn ôl;

(b)

yr unig anifeiliaid ar y cyfrwng cludo yn y sioe yw'r anifeiliaid a gludodd i'r sioe;

(c)

defnyddir y cyfrwng cludo yn unig i gludo, ar y daith yn ôl, anifeiliaid a gludwyd ynddo i'r sioe; ac

(ch)

dychwelir y cyfrwng cludo o'r sioe yn uniongyrchol i'r safle tarddiad.

Dadlwytho dros dro.

4.

Pan fo anifeiliaid wedi cael eu dadlwytho o gyfrwng cludo yn unig er mwyn cael bwyd neu ddŵr, neu at ryw ddiben dros dro arall, ac yna eu hail-lwytho.”.

Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003 (OS 2003/1968) (Cy.213) fel —

(a)

nad yw gofynion glanhau a diheintio erthygl 3 o'r Gorchymyn hwnnw yn gymwys i deithiau penodol a wneir o fewn menter ffermio unigol, rhwng yr un ddau bwynt ac yn ôl ac ymlaen i sioeau da byw; a

(b)

y dileir y rhwymedigaeth yn erthygl 3(6) o'r Gorchymyn hwnnw symud ymaith unrhyw anifail sy'n marw wrth iddo gael ei gludo, ac unrhyw sarn (llaesodr) fudr a charthion o'r cyfrwng cludo.

Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn.