(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1396 (Cy.141).

2.

Wrth weithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 77/99/EEC ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar gynhyrchu a marchnata cynhyrchion cig a chynhyrchion penodol eraill sy'n dod o anifeiliaid (rhoddwyd testun a atodir at Gyfarwyddeb y Cyngor 92/5/EEC, OJ Rhif L57, 2.3.92, t.1 yn lle testun Cyfarwyddeb 77/99/EEC), cafodd darpariaeth ei chynnwys yn Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004 gyda'r effaith, os gwerthir cynhyrchion cig o ymddangosiad penodol, fod yn rhaid i'r enw a ddefnyddir yn enw ar y bwyd ar labeli'r cynhyrchion gynnwys, at ddibenion Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1449, fel y'i diwygiwyd), ddangosiad ynghylch unrhyw startsh neu brotein a ychwanegwyd ac eithrio at ddiben technolegol yn unig. Yn dilyn diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 77/99/EEC, mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r gofyniad hwnnw (rheoliadau 3 a 4).

3.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd y Rheoliadau hyn yn ei chael ar gostau busnes wedi ei baratoi a gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.