3.—(1) Os bydd—
(a)awdurdod sbwriel yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 88(7) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(1);
(b)prif awdurdod sbwriel yng Nghymru sy'n gweithredu o dan baragraff 7(5) o Atodlen 3A i Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
(c)awdurdod lleol yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 43A(3) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;
(ch)prif awdurdod neu awdurdod eilaidd yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 60(3) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005;
(d)awdurdod lleol yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 74(3) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005,
yn gwneud darpariaeth i drin cosb benodedig yn un a gafodd ei thalu os caiff swm llai ei dalu cyn diwedd cyfnod a bennir gan yr awdurdod hwnnw, rhaid i'r swm llai hwnnw beidio â bod yn llai na £50.
(2) Os bydd—
(a)awdurdod casglu gwastraff yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 47ZB(3) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
(b)prif awdurdod sbwriel yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 94A(5) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
(c)awdurdod lleol yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 8A(3) o Ddeddf Sŵn 1996;
(ch)awdurdod lleol sy'n gweithredu o dan adran 6(10) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005,
yn gwneud darpariaeth i drin cosb benodedig yn un a gafodd ei thalu os caiff swm llai ei dalu cyn diwedd cyfnod a bennir gan yr awdurdod hwnnw, rhaid i'r swm llai hwnnw beidio â bod yn llai na £60.
(3) Os bydd awdurdod lleol sy'n gweithredu o dan adran 2A(10) o Ddeddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978(2) yn gwneud darpariaeth i drin cosb benodedig yn un a gafodd ei thalu os caiff swm llai ei dalu cyn diwedd cyfnod a bennir gan yr awdurdod hwnnw, rhaid i'r swm llai hwnnw beidio â bod yn llai na £120.
(4) Os bydd—
(a)awdurdod rheoleiddio sy'n gweithredu o dan adran 5B(11) o Ddeddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989(3);
(b)awdurdod gorfodi sy'n gweithredu o dan adran 34A(11) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(4),
yn gwneud darpariaeth i drin cosb benodedig yn un a gafodd ei thalu os caiff swm llai ei dalu cyn diwedd cyfnod a bennir gan yr awdurdod hwnnw, rhaid i'r swm llai hwnnw beidio â bod yn llai na £180.
Mewnosodwyd adran 88(7) gan adran 19(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.
1978 p.3; mewnosodwyd adran 2(A) gan adran 10 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.
1989 p.14; mewnosodwyd adran 5B gan adran 38 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.
Mewnosodwyd adran 34A gan adran 45 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.