xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2.—(1) Rhaid i swm cosb benodedig y gellir ei bennu gan—
(a)prif awdurdod sbwriel yng Nghymru o dan adran 88(6A)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(1);
(b)prif awdurdod sbwriel yng Nghymru o dan baragraff 7(4)(a) o Atodlen 3A i Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(2);
(c)awdurdod lleol perthnasol yng Nghymru o dan adran 43A(1)(a) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;
(ch)prif awdurdod neu awdurdod eilaidd yng Nghymru o dan adran 60(1)(a) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 o ran unrhyw orchymyn rheoli cwn a gafodd ei wneud gan yr awdurdod hwnnw;
(d)awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 74(2)(a) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005
beidio â bod yn llai na £75 a dim mwy na £150.
(2) Rhaid i swm cosb benodedig gellir ei bennu gan—
(a)awdurdod casglu gwastraff yng Nghymru o dan adran 47ZB(2)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
(b)prif awdurdod sbwriel yng Nghymru o dan adran 94A(4)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(3);
(c)awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 8A(2)(a) o Ddeddf Sŵn 1996
beidio â bod yn llai na £100 a dim mwy na £150.
(3) Caiff awdurdod sy'n gweithredu o dan fwy nag un o'r darpariaethau a enwir ym mharagraff (1) neu (2) bennu swm gwahanol o dan bob un o'r cyfryw ddarpariaethau.
Mewnosodwyd adran 88(6)(A) gan adran 19(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.
Mewnosodwyd Atodlen 3A, ac adran 94B sy'n rhoi effaith iddi, gan adran 23 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.
Mewnosodwyd adran 94(A) gan adran 22 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.