Ystodau rhagnodedig o gosbau penodedig2
1
Rhaid i swm cosb benodedig y gellir ei bennu gan—
a
prif awdurdod sbwriel yng Nghymru o dan adran 88(6A)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 19909;
b
prif awdurdod sbwriel yng Nghymru o dan baragraff 7(4)(a) o Atodlen 3A i Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 199010;
c
awdurdod lleol perthnasol yng Nghymru o dan adran 43A(1)(a) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;
ch
prif awdurdod neu awdurdod eilaidd yng Nghymru o dan adran 60(1)(a) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 o ran unrhyw orchymyn rheoli cwn a gafodd ei wneud gan yr awdurdod hwnnw;
d
awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 74(2)(a) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005
beidio â bod yn llai na £75 a dim mwy na £150.
2
Rhaid i swm cosb benodedig gellir ei bennu gan—
a
awdurdod casglu gwastraff yng Nghymru o dan adran 47ZB(2)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
b
prif awdurdod sbwriel yng Nghymru o dan adran 94A(4)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 199011;
c
awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 8A(2)(a) o Ddeddf Sŵn 1996
beidio â bod yn llai na £100 a dim mwy na £150.
3
Caiff awdurdod sy'n gweithredu o dan fwy nag un o'r darpariaethau a enwir ym mharagraff (1) neu (2) bennu swm gwahanol o dan bob un o'r cyfryw ddarpariaethau.