1. Tramgwydd yn ymwneud â chyflawni trosedd y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(b) (cyfyngiadau aros a llwytho) i Atodlen 7 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (“Deddf 2004”)
2. Tramgwydd yn ymwneud â gadael y cerbyd mewn man parcio ar-y-stryd ac eithrio man a awdurdodir gan unrhyw orchymyn yn ymwneud â'r man parcio yn unrhyw un o'r achosion a ganlyn, neu oddi tano—
(a)heb fod yn dangos permit, taleb neu docyn talu ac arddangos;
(b)mewn man lle mae parcio wedi cael ei atal;
(c)pan fo'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau neu gynnig neu arddangos nwyddau i'w gwerthu;
(ch)pan nad yw'r cerbyd yn dod o fewn y dosbarth o gerbyd y caniateir iddo barcio yno.
3. Tramgwyddo'r gwaharddiad a osodir gan adran 85 (parcio dwbl etc.) o Ddeddf 2004.
4. Tramgwyddo'r gwaharddiad a osodir gan adran 86 (troetffyrdd a ostyngwyd) o Ddeddf 2004.
5. Tramgwydd sy'n cynnwys cyflawni trosedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(h) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (troseddau sy'n ymwneud â thraciau beicio).
6. Tramgwydd sy'n cynnwys trosedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(g) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (parcio Cerbydau Nwyddau Trymion ar leiniau ymyl, lleiniau canol neu droetffyrdd).
7. Tramgwydd sy'n cynnwys trosedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(c) (peri i gerbydau aros ar groesfannau i gerddwyr neu gerllaw iddynt) neu 4(2)(i) (llinellau igam-ogam gerllaw croesfannau) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004.
8. Tramgwydd sy'n cynnwys trosedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(i)(ii) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (marciau ar arosfannau bysiau neu fannau i fysiau sefyll ynddynt).
9. Tramgwydd sy'n cynnwys trosedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(e) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (parcio mewn mannau llwytho).
10. Tramgwydd sy'n ymwneud â throsedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(d) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (mewn perthynas â man parcio oddi-ar-y-stryd) ac yn cynnwys unrhyw un neu rai o'r canlynol yn sgil gorchymyn yn eu gwahardd mewn perthynas â'r man parcio—
(a)pan fo'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau neu gynnig neu arddangos nwyddau i'w gwerthu;
(b)parcio mewn man cyfyngedig;
(c)parcio mewn man i bermit heb arddangos permit;
(ch)parcio mewn man parcio i berson anabl heb arddangos yn gywir fathodyn dilys person anabl;
(d)parcio cerbyd mewn man parcio pan nad yw'r cerbyd yn dod o fewn y dosbarth o gerbyd y caniateir iddo barcio yno.