Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn ail-wneud Gorchymyn Heidiau Bridio Dofednod a Deorfeydd (Cymru) 2007. Y prif newid yw ei fod yn ymestyn y ddarpariaeth samplu yn y Gorchymyn blaenorol i heidiau o adar sy'n dodwy (roedd y Gorchymyn blaenorol wedi'i gyfyngu i heidiau bridio).
Mae'n gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1177/2006.
Mae'n gwneud darpariaeth ar gyfer cofrestru deorfeydd, heidiau bridio a heidiau sy'n dodwy o adar o'r rhywogaeth Gallus gallus, tyrcwn, hwyaid a gwyddau, ac yn gosod gofynion ar gyfer cadw cofnodion.
Mae'n gwneud darpariaeth ar gyfer samplu heidiau o adar bridio a heidiau o adar sy'n dodwy o'r rhywogaeth Gallus gallus.
Yr awdurdod lleol sydd i orfodi'r Gorchymyn.
Mae peidio ag ufuddhau i'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac mae'r gosb am hynny yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.