xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 524 (Cy.50)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Dofednod (Cymru) 2008

Gwnaed

26 Chwefror 2008

Yn dod i rym

25 Mawrth 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2).

RHAN 1Rhagarweiniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Dofednod (Cymru) 2008, mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 25 Mawrth 2008.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “bridiwr cig” (“meat breeder”) yw dofednyn a gedwir er mwyn cynhyrchu wyau y bwriedir peri gori arnynt a'u deor i gynhyrchu cywion—

(a)

a gaiff eu magu i gynhyrchu cig i'w fwyta gan bobl, neu

(b)

y caiff eu hepil eu magu i gynhyrchu cig i'w fwyta gan bobl;

ystyr “cyw” (“chick”) yw aderyn sy'n llai na 72 awr oed nad yw wedi cael bwyd;

ystyr “dodwywr fridiwr” (“layer breeder”) yw dofednyn a gedwir er mwyn cynhyrchu wyau y bwriedir peri gori arnynt a'u deor i gynhyrchu cywion—

(a)

a gaiff eu magu i gynhyrchu wyau i'w bwyta gan bobl, neu

(b)

y caiff eu hepil eu magu i gynhyrchu wyau i'w bwyta gan bobl;

ystyr “dofednod” (“poultry”) yw adar o'r rhywogaeth Gallus gallus, tyrcwn, hwyaid a gwyddau.

ystyr “haid” (“flock”) yw dofednod o'r un statws iechyd â'i gilydd a gedwir ar yr un daliad neu yn yr un caeadle, ac sy'n un uned epidemiolegol ar ei phen ei hun, ac sy'n cynnwys, yn achos dofednod a gaiff eu lletya, bob aderyn sy'n rhannu'r un gofod awyr;

ystyr “haid ddodwy” (“laying flock”) yw haid o ddofednod a gedwir i gynhyrchu wyau i'w bwyta gan bobl;

ystyr “haid fridio” (“breeding flock”) yw haid a gedwir i gynhyrchu wyau y bwriedir peri gori arnynt;

ystyr “meddiannydd” (“occupier”) mewn perthynas ag unrhyw ddeorfa neu ddaliad, yw'r person sydd â gofal y ddeorfa neu'r daliad.

Yr awdurdod cymwys

3.  Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion —

(a)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005 sy'n rhoi ar waith Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau bridio o Gallus gallus ac sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003(3);

(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006 sy'n rhoi ar waith Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn ieir dodwy o Gallus gallus ac sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1003/2005(4); ac

(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1177/2006 sy'n rhoi ar waith Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gofynion ar gyfer defnyddio dulliau rheoli penodol yn fframwaith y rhaglenni cenedlaethol ar gyfer rheoli salmonela mewn dofednod(5).

RHAN 2Deorfeydd dofednod

Hysbysu am ddeorfeydd dofednod

4.—(1Rhaid i feddiannydd deorfa ddofednod â chyfanswm capasiti deor o 1000 neu fwy o wyau hysbysu Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth yn yr erthygl hon—

(a)o fewn tri mis ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym; neu

(b)yn achos sefydlu'r cyfryw ddeorfa ar ôl y dyddiad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, o fewn tri mis ar ôl i'r ddeorfa gael ei sefydlu.

(2Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw newid i'r wybodaeth honno neu unrhyw ychwanegiad ati a hynny o fewn tri mis ar ôl gwneud y newid neu'r ychwanegiad.

(3Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw feddiannydd sydd wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth honno o dan unrhyw ddeddfiad arall.

(4Yr wybodaeth sydd i'w rhoi yw—

(a)enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y meddiannydd;

(b)cyfeiriad a Rhif ffôn y ddeorfa;

(c)capasiti deor y ddeorfa; ac

(ch)rhywogaeth y dofednod a ddeorwyd yn y ddeorfa.

Cofnodion mewn deorfa sy'n peri gori ar Gallus gallus

5.  Os yw deorfa yn peri gori ar wyau o rywogaeth Gallus gallus a bod ganddi gapasiti o 1000 o wyau neu fwy, pan symudir wyau neu gywion i'r ddeorfa neu oddi arni rhaid i'r meddiannydd gofnodi—

(a)dyddiad y symud;

(b)nifer yr wyau neu'r cywion sy'n cael eu symud;

(c)a yw'r symud i'r ddeorfa neu oddi arni;

(ch)os yw'r symud yn symud oddi ar ddaliad, y daliad cyrchfan; a

(d)yn achos wyau a dducpwyd i'r ddeorfa i beri gori arnynt, y daliad tarddiad.

RHAN 3Heidiau bridio neu heidiau dodwy

Hysbysu am heidiau bridio neu heidiau dodwy

6.—(1Rhaid i feddiannydd daliad lle y cedwir un neu fwy o heidiau bridio neu heidiau dodwy o 250 o leiaf o ddofednod o unrhyw un rhywogaeth unigol hysbysu Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth yn yr erthygl hon—

(a)o fewn tri mis ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym hwn; neu

(b)yn achos sefydlu'r cyfryw ddaliad ar ôl y dyddiad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, o fewn tri mis ar ôl i'r daliad gael ei sefydlu.

(2Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw newid i'r wybodaeth honno neu unrhyw ychwanegiad ati a hynny o fewn tri mis ar ôl gwneud y newid neu'r ychwanegiad.

(3Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw feddiannydd sydd wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth honno o dan unrhyw ddeddfiad arall.

(4Yr wybodaeth sydd i'w rhoi yw—

(a)enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y daliad;

(b)enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y meddiannydd a pherchennog pob haid ar y daliad;

(c)nifer yr heidiau ar y daliad;

(ch)ar gyfer pob haid—

(i)dull adnabod yr haid;

(ii)ai haid fridio yntau haid ddodwy ydyw;

(iii)y rhywogaeth;

(iv)nifer y dofednod;

(d)ar gyfer pob haid fridio—

(i)ai haid o ddodwywyr fridwyr yntau o fridwyr cig ydyw; a

(ii)statws yr haid yn y pyramid bridio.

Heidiau bridio neu heidiau dodwy o'r rhywogaeth Gallus gallus

7.  Mae'r Atodlen (heidiau bridio neu heidiau dodwy o'r rhywogaeth Gallus gallus) yn cael ei heffaith.

Gwahardd defnyddio gwrthficrobiaid

8.  Ni chaiff neb roi unrhyw wrthficrobiad i unrhyw aderyn o'r rhywogaeth Gallus gallus fel dull penodol o reoli salmonela a hynny'n groes i Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1177/2006 (defnyddio gwrthficrobiaid).

Gwahardd defnyddio brechlynnau

9.  Ni chaiff neb roi unrhyw frechlyn salmonela byw i unrhyw aderyn o'r rhywogaeth Gallus gallus yn groes i Erthygl 3(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1177/2006 (defnyddio brechlynnau).

RHAN 4Amrywiol

Cofnodion

10.  Rhaid i unrhyw berson sy'n gorfod cadw cofnod o dan y Gorchymyn hwn ei gadw am ddwy flynedd ar ôl dyddiad ei wneud a rhaid iddo'i ddangos i un o arolygwyr neu un o swyddogion Gweinidogion Cymru pan ofynnir iddo wneud hynny a chaniatáu gwneud copi neu gymryd echdyniad ohono.

Ymyrryd â samplau

11.  Rhaid i berson beidio ag ymyrryd â sampl na gwneud unrhyw beth iddo sy'n debygol o effeithio ar ganlyniad unrhyw brawf y mae'n ofynnol ei wneud o dan y Gorchymyn hwn, ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer yn y Gorchymyn hwn.

Pwerau Gweinidogion Cymru mewn achosion o fethu â chydymffurfio

12.  Os bydd unrhyw berson yn methu â chymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol gan y Gorchymyn hwn, caiff arolygydd drefnu i'r cyfryw gamau gael eu cymryd ar draul y person sydd wedi methu â chydymffurfio.

Gorfodi

13.—(1Yr awdurdod lleol sydd yn gorfodi'r Gorchymyn hwn.

(2Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu ag unrhyw achos penodol, mai Gweinidogion Cymru yn hytrach na'r awdurdod lleol fydd yn gorfodi'r Gorchymyn hwn.

Dirymu

14.  Dirymir Gorchymyn Heidiau Bridio Dofednod a Deorfeydd (Cymru) 2007(6).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

26 Chwefror 2008

Erthygl 7

YR ATODLENHeidiau bridio neu heidiau dodwy o'r rhywogaeth Gallus gallus

Cymhwyso

1.—(1Mae'r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddaliad lle cedwir un haid fridio neu fwy nag un o'r rhywogaeth Gallus gallus o 250 o adar o leiaf.

(2Mae'n gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddaliad lle cedwir un haid ddodwy neu fwy nag un o'r rhywogaeth Gallus gallus onid yw'r holl wyau—

(a)at ddefnydd domestig preifat, neu

(b)wedi'u cyflenwi mewn niferoedd bychain gan y cynhyrchydd i'r defnyddiwr terfynol neu i siopau mânwerthu lleol.

(3Mae unrhyw gyfeiriad at feddiannydd yn gyfeiriad at feddiannydd daliad o'r fath.

(4Mae pob cyfeiriad yn yr Atodlen hon at adar yn gyfeiriad at adar o'r rhywogaeth Gallus gallus, ac mae pob cyfeiriad at haid yn gyfeiriad at haid o'r adar hynny.

Hysbysu bod heidiau bridio wedi cyrraedd

2.—(1Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o'r dyddiad y mae'n disgwyl i bob haid fridio o 250 o adar o leiaf gyrraedd y daliad.

(2Rhaid rhoi'r hysbysiad o leiaf ddwy wythnos cyn y dyddiad y disgwylir i'r haid gyrraedd.

Hysbysu o symud heidiau bridio ymlaen i'r cam dodwy

3.  O leiaf ddwy wythnos cyn y disgwylir i haid fridio symud ymlaen i'r cam dodwy, neu i uned ddodwy, rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o'r dyddiad y disgwylir i'r haid—

(a)symud ymlaen i'r cam dodwy neu'r uned ddodwy; a

(b)cyrraedd diwedd ei gylchred cynhyrchu.

Heidiau bridio: adegau samplu

4.  Rhaid i'r meddiannydd gymryd samplau o bob haid fridio ar y daliad—

(a)pan fo'r adar yn gywion;

(b)pan fo'r adar yn bedair wythnos oed;

(c)dwy wythnos cyn y dyddiad pan symudir yr haid i uned ddodwy neu (onis symudir hwy) y dyddiad pan ddisgwylir iddynt ddod i mewn i ddodwy; ac

(ch)bob yn ail wythnos yn ystod y cyfnod dodwy.

Heidiau dodwy: adegau samplu

5.  Rhaid i'r meddiannydd gymryd samplau o bob haid ddodwy ar y daliad—

(a)pan fo'r adar yn gywion;

(b)dwy wythnos cyn y dyddiad pan symudir yr haid i uned ddodwy neu (onis symudir hwy) y dyddiad pan ddisgwylir iddynt ddod i mewn i ddodwy; ac

(c)pob 15 wythnos yn ystod y cyfnod dodwy, yn cychwyn pan fo'r adar rhwng 22 a 26 wythnos oed.

Dull samplu cywion

6.—(1Rhaid i feddiannydd sy'n samplu cywion o dan yr Atodlen hon gymryd—

(a)un leinin blychau cywion neu leinin hambwrdd deorydd ar gyfer pob 500 o gywion a ddanfonir o bob deorfa, hyd at uchafswm o 10 leinin; a

(b)carcasau pob cyw, hyd at uchafswm o 60, a ddanfonir o bob deorfa sydd wedi marw pan gyrhaeddant y daliad.

(2Yn y paragraff hwn—

ystyr “leinin blychau cywion” (“chick box liner”) yw unrhyw ddeunydd a ddefnyddir fel leinin mewn blwch neu gynhwysydd arall y cludir cywion ynddo o'r ddeorfa i'r daliad; ac

ystyr “leinin hambwrdd deorydd” (“hatcher tray liner”) yw unrhyw ddeunydd a ddefnyddir fel leinin mewn blwch, hambwrdd neu gynhwysydd arall y perir gori ar a deor wyau ynddo.

Samplu adar pedair wythnos oed etc.

7.—(1Rhaid i feddiannydd ddefnyddio'r dulliau a osodir yn y paragraff hwn wrth samplu—

(a)yn achos heidiau bridio, adar pedair wythnos oed; a

(b)yn achos heidiau bridio a heidiau dodwy fel ei gilydd, adar ddwy wythnos cyn y dyddiad pan symudir hwy i uned ddodwy neu (onis symudir hwy) y dyddiad pan ddisgwylir iddynt ddod i mewn i ddodwy.

(2Rhaid i'r sampl gynnwys—

(a)isafswm o ddau bâr o swabiau o esgidiau; neu

(b)sampl cyfansawdd o ysgarthion.

(3Yn y paragraff hwn, ystyr “sampl cyfansawdd o ysgarthion” (“a composite faeces sample”) yw sampl o ysgarthion sy'n cynnwys o leiaf drigain o samplau gyda phob un yn pwyso dim llai nag 1 gram a phob un wedi ei gymryd o safle a ddewiswyd ar hap i gynrychioli'r haid y cymerwyd ef ohono.

Dull samplu yn ystod y cyfnod dodwy

8.  Rhaid i samplau a gymerir yn ystod y cyfnod dodwy gael eu cymryd yn unol â phwynt 2.2.2.1 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005 (yn achos haid fridio) neu bwynt 2.2 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006 (yn achos haid ddodwy).

Cyflwyno samplau i labordy a gymeradwywyd

9.—(1Rhaid i'r meddiannydd, ar y diwrnod y cymerir sampl o dan y Rheoliadau hyn, ei anfon i labordy a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion ei brofi i ganfod a oes salmonela ynddo.

(2Rhaid i'r meddiannydd nodi dull adnabod y samplau a rhoi'r wybodaeth a ganlyn—

(a)enw'r meddiannydd;

(b)cyfeiriad y daliad;

(c)mathau'r samplau;

(ch)y dyddiad pan gymerwyd y samplau;

(d)dull adnabod yr haid;

(dd)oed yr haid;

(e)yn achos haid fridio—

(i)ai haid o ddodwywyr fridwyr yntau haid o fridwyr cig ydyw; a

(ii)statws yr haid yn y pyramid bridio.

Cofnodion samplau

10.—(1Rhaid i'r meddiannydd, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cymryd sampl, gofnodi—

(a)y math o sampl a gymerwyd;

(b)y dyddiad pan gymerwyd y sampl;

(c)dull adnabod yr haid y cymerwyd y sampl ohoni;

(ch)oed yr haid a samplwyd;

(d)y labordy yr anfonwyd y sampl iddo.

(2Rhaid i'r meddiannydd gofnodi canlyniad pob prawf pan gaiff ef gan y labordy.

Cofnodion symudiadau

11.  Pan symudir adar neu wyau (ac eithrio wyau i'w bwyta gan bobl) i ddaliad neu oddi arno rhaid i'r meddiannydd gofnodi—

(a)dyddiad y symud;

(b)ai symud i'r daliad yntau oddi arno oedd y symud;

(c)nifer yr adar neu'r wyau a symudwyd;

(ch)oed yr adar a symudwyd;

(d)yn achos symud haid cyfan, dull adnabod yr haid honno;

(dd)dull adnabod yr adeilad neu'r grŵp o adeiladau y symudwyd yr adar neu'r wyau iddo neu ohono;

(e)cyfeiriad y daliad y daethant ohono neu yr anfonwyd hwy iddo.

Dyletswyddau'r person sydd â gofal labordy

12.—(1Rhaid i'r person sydd â gofal labordy sy'n cael samplau sicrhau bod y sampl yn cael ei roi mewn oergell a bod yr archwiliad yn dechrau o fewn 48 awr i gael y sampl.

(2Rhaid i'r person hwnnw baratoi samplo leinin blychau cywion neu o leinin hambwrdd deorydd drwy—

(a)cymryd tamaid o leinin wedi'i faeddu sy'n pwyso o leiaf un gram o bob leinin;

(b)crynsythu ynghyd yr holl ddarnau o lwyth; ac

(c)gosod y deunydd crynswth mewn Dwr Pepton Byfferog (BPW) ar gyfradd o ddim mwy nag 1 gram o leinin i bob 10 ml o BPW.

(3Ar gyfer heidiau bridio rhaid i'r person hwnnw—

(a)paratoi samplau o swabiau o esgidiau yn unol â phwynt 3.1.2 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005;

(b)paratoi unrhyw samplau eraill o ysgarthion yn unol â phwynt 3.1.3 o'r Atodiad hwnnw; ac

(c)profi'r samplau am salmonela yn unol â'r dull ym mhwynt 3.2 o'r Atodiad hwnnw.

(4Ar gyfer heidiau dodwy rhaid i'r person hwnnw—

(a)paratoi samplau o swabiau o esgidiau yn unol â phwynt 3.1.1 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006;

(b)paratoi unrhyw samplau eraill o ysgarthion neu lwch yn unol â 3.1.2 o'r Atodiad hwnnw; ac

(c)profi'r samplau am salmonela yn unol â'r dull ym mhwynt 3.2 o'r Atodiad hwnnw.

(5Rhaid i'r person hwnnw anfon y canlyniadau cyn gynted ag y bo'n ymarferol i'r person a gyflwynodd y sampl.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn ail-wneud Gorchymyn Heidiau Bridio Dofednod a Deorfeydd (Cymru) 2007. Y prif newid yw ei fod yn ymestyn y ddarpariaeth samplu yn y Gorchymyn blaenorol i heidiau o adar sy'n dodwy (roedd y Gorchymyn blaenorol wedi'i gyfyngu i heidiau bridio).

Mae'n gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1177/2006.

Mae'n gwneud darpariaeth ar gyfer cofrestru deorfeydd, heidiau bridio a heidiau sy'n dodwy o adar o'r rhywogaeth Gallus gallus, tyrcwn, hwyaid a gwyddau, ac yn gosod gofynion ar gyfer cadw cofnodion.

Mae'n gwneud darpariaeth ar gyfer samplu heidiau o adar bridio a heidiau o adar sy'n dodwy o'r rhywogaeth Gallus gallus.

Yr awdurdod lleol sydd i orfodi'r Gorchymyn.

Mae peidio ag ufuddhau i'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac mae'r gosb am hynny yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.

(2)

Gweler adran 86(1) am ddiffiniad o “the Ministers”. Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044. Mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac Atodlen 11 iddi.

(3)

OJ Rhif L170, 1.7.2005, t.12 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006 (OJ Rhif L 211, 1.8.2006, t. 4).

(4)

OJ Rhif L 211, 1.8.2006, t. 4.

(5)

OJ Rhif L 212, 2.8.2006, t.3.