Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu dangosyddion perfformiad, ar gyfer Cymru, y cyfeirir atynt wrth fesur perfformiad cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol (fel awdurdodau gwerth gorau), wrth arfer eu swyddogaethau, o 1 Ebrill 2008. Mae'r Gorchymyn yn dirymu Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2005.
Drwy gyfeirio at yr Atodlenni, mae erthygl 2 yn nodi pa ddangosyddion perfformiad a gaiff eu defnyddio i fesur perfformiad pa swyddogaethau cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol perthnasol fel awdurdodau gwerth gorau.
Mae Atodlenni 1 i 8 yn manylu ar y dangosyddion rhagnodedig ar gyfer y gwahanol swyddogaethau fel a ganlyn:
Atodlen 1 – Gwasanaethau Cymdeithasol
Atodlen 2 – Tai
Atodlen 3 – Addysg
Atodlen 4 – Rheoli gwastraff
Atodlen 5 – Trafnidiaeth/Priffyrdd
Atodlen 6 – Diogelu'r Cyhoedd
Atodlen 7 – Effeithlonrwydd Ynni
Atodlen 8 – Budd-daliadau Tai a Budd-daliadau'r Dreth Gyngor.