Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008

Anifeiliaid buchol mewn lladd-dy

8.—(1Pan gigyddir anifail buchol mewn lladd-dy, neu pan gludir carcas anifail buchol i ladd-dy ar ôl ei ladd mewn man arall fel mesur argyfwng, rhaid i feddiannydd y lladd-dy dynnu'r holl ddeunydd risg penodedig (ar wahân i'r rhannau hynny o asgwrn y cefn sy'n ddeunydd risg penodedig) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda ac ym mhob achos cyn yr archwiliad post-mortem.

(2Rhaid i feddiannydd y lladd-dy draddodi unrhyw gig sy'n cynnwys y rhannau hynny o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol i—

(a)safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 12(1)(a);

(b)safle torri a leolir mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig ac a awdurdodwyd o dan y ddarpariaeth gyfatebol sy'n gymwys yn y rhan honno; neu

(c)Aelod-wladwriaeth arall yn unol â phwynt 10(2) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned.

(3Rhaid i feddiannydd y lladd-dy nodi pa gig sy'n cynnwys asgwrn cefn nad yw'n ddeunydd risg penodedig yn unol â phwynt 11(3)(a) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned a darparu gwybodaeth yn unol â phwynt 11(3)(b) o'r Atodiad hwnnw.

(4Ni chaiff neb gynnwys streipen las yn y label y cyfeirir ato yn Erthygl 13 o Reoliad Senedd Ewrop a'r Cyngor (EC) Rhif 1760/2000 sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac ar gyfer labelu eidion a chynhyrchion eidion ac yn dirymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 (1), ac eithrio yn unol â phwynt 11(3)(a) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned.

(5Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

(1)

OJ Rhif L 204, 11.8.2000, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 (OJ Rhif L 363, 20.12.2006, t. 1).