Penodi'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn awdurdod cymwys
1.—(1) Rhaid i'r Asiantaeth Safonau Bwyd gyflawni'r dyletswyddau a osodir ar yr Aelod-wladwriaeth ym mhwynt 11(1) a phwynt 11(2) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned mewn perthynas â'r Atodlen hon, a chaiff roi awdurdodiadau at ddibenion pwynt 4(3)(a) o'r Atodiad hwnnw.
(2) At ddibenion yr Atodlen hon, o fewn lladd-dy neu safle torri, arolygydd yw unrhyw berson a benodir at y diben hwnnw gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
(3) Caniateir cyfyngu penodiad fel arolygydd i'r pwerau a'r dyletswyddau a bennir wrth benodi.
(4) Mae gan unrhyw berson sy'n gweithredu pwerau arolygydd o dan yr Atodlen hon yr amddiffyniad a nodir yn rheoliad 14(3).