ATODLEN 6Bwydydd anifeiliaid
RHAN 2Cynhyrchu protein a bwydydd anifeiliaid
Blawd pysgod ar gyfer bwydo anifeiliaid a ffermir nad ydynt yn cnoi cil8
1
Rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu blawd pysgod ar gyfer ei fwydo i anifeiliaid a ffermir nad ydynt yn cnoi cil wneud hynny yn unol â phwynt B(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned.
2
Rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd sy'n cynnwys blawd pysgod ar gyfer ei fwydo i anifeiliaid a ffermir nad ydynt yn cnoi cil wneud hynny —
a
yn unol â phwynt B(c) o'r Rhan honno, mewn mangre a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw;
b
yn unol â phwynt B(c)(i) o'r Rhan honno, ar gyfer unrhyw un sy'n cynhyrchu bwyd cyfansawdd gartref a gofrestrwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw; neu
c
yn unol â phwynt B(c) (ii) o'r Rhan honno, mewn mangre a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw.
3
Rhaid i unrhyw berson sy'n pecynnu'r bwydydd anifeiliaid eu labelu yn unol â phwynt B(d) o'r Rhan honno, ac y mae'n rhaid i unrhyw ddogfennau a anfonir gyda'r bwydydd anifeiliaid gydymffurfio â'r pwynt hwnnw.
4
Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo llwythi mawr o'r bwydydd anifeiliaid wneud hynny yn unol â'r frawddeg gyntaf ym mhwynt B(e) o'r Rhan honno.
5
Rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio cerbyd, a ddefnyddiwyd yn flaenarol i gludo bwydydd anifeiliaid o'r fath, i gludo bwydydd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r ail frawddeg ym mhwynt B(e) o'r Rhan honno.
6
Rhaid i feddiannydd unrhyw fferm lle cedwir anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r paragraff cyntaf o bwynt B(f) o'r Rhan honno oni fydd Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y cydymffurfir â darpariaethau'r ail baragraff o'r pwynt hwnnw ac wedi cofrestru'r fferm o dan y paragraff hwnnw.
Tramgwyddau sy'n ymwneud â blawd pysgod a bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys blawd pysgod9
1
Mae peidio â chydymffurfio â pharagraff 8 yn dramgwydd.
2
Mae cynhyrchydd bwydydd cyfansawdd cartref a gofrestrwyd o dan baragraff 8(2)(b) yn cyflawni tramgwydd os yw—
a
yn cadw anifeiliaid cnoi cil;
b
yn traddodi bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys blawd pysgod (boed yn gyflawn neu'n rhannol gyflawn) a gynhyrchwyd ganddo ei hunan o'i ddaliad; neu
c
defnyddio bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys blawd pysgod gyda chynnwys protein crai o 50% neu fwy wrth gynhyrchu bwydydd anifeiliaid cyflawn.
3
Mae unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid yn unol â phwynt B(c)(ii) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned yn cyflawni tramgwydd os yw —
a
yn peidio â sicrhau y cedwir bwydydd anifeiliaid a fwriedir ar gyfer anifeiliaid cnoi cil mewn cyfleusterau ar wahân, yn unol â mewnoliad cyntaf y pwynt hwnnw;
b
yn peidio â sicrhau y gweithgynhyrchir bwydydd anifeiliaid a fwriedir ar gyfer anifeiliaid cnoi cil yn unol â'r ail fewnoliad; neu
c
yn peidio â gwneud a chadw cofnod yn unol â'r trydydd mewnoliad.
Bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm i'w bwydo i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil10
1
Rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm i'w bwydo i anifeiliaid a ffermir nad ydynt yn cnoi cil wneud hynny —
a
yn unol â phwynt C(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned, mewn sefydliad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw;
b
yn unol â phwynt C(a)(i) o'r Rhan honno, yn achos cynhyrchwyr bwydydd cyfansawdd cartref a gofrestrwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw; neu
c
yn unol â phwynt C(a)(ii) o'r Rhan honno mewn sefydliad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw.
2
Rhaid i unrhyw berson sy'n pecynnu'r bwydydd anifeiliaid eu labelu yn unol â phwynt C(b) o'r Rhan honno, ac y mae'n rhaid i unrhyw ddogfennau a anfonir gyda'r bwydydd anifeiliaid gydymffurfio â'r pwynt hwnnw.
3
Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo'r bwydydd anifeiliaid hynny mewn llwythi mawr wneud hynny yn unol â phwynt C(c) o'r Rhan honno.
4
Rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio cerbyd, a ddefnyddiwyd yn flaenorol i gludo bwydydd anifeiliaid o'r math hyn, i gludo bwydydd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r ail frawddeg ym mhwynt C(c) o'r Rhan honno.
5
Rhaid i feddiannydd unrhyw fferm lle cedwir anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r paragraff cyntaf o bwynt C(d) o'r Rhan honno oni fydd Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y cydymffurfir â darpariaethau'r ail baragraff o'r pwynt hwnnw ac wedi cofrestru'r fferm o dan y paragraff hwnnw.
Tramgwyddau sy'n ymwneud â bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm i'w bwydo i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil11
1
Mae peidio â chydymffurfio â pharagraff 10 yn dramgwydd.
2
Mae cynhyrchydd bwydydd cyfansawdd cartref a gofrestrwyd o dan baragraff 10(1)(b) yn cyflawni tramgwydd os yw—
a
yn cadw anifeiliaid cnoi cil;
b
yn traddodi bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm (boed yn gyflawn neu'n rhannol gyflawn) o'i ddaliad; neu
c
yn defnyddio bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm sydd â'u cynnwys ffosfforws yn 10% neu fwy wrth gynhyrchu bwydydd anifeiliaid cyflawn.
3
Mae unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid yn unol â phwynt C(a)(ii) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned yn cyflawni tramgwydd os yw —
a
yn peidio â sicrhau y gweithgynhyrchir bwydydd anifeiliaid a fwriedir ar gyfer anifeiliaid cnoi cil yn unol â'r mewnoliad cyntaf yn y pwynt hwnnw;
b
yn peidio â sicrhau y cedwir hwy mewn cyfleusterau ar wahân yn unol â'r ail fewnoliad; neu
c
yn peidio â gwneud a chadw cofnod yn unol â'r trydydd mewnoliad.
Cynhyrchion gwaed a blawd gwaed12
1
Rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu —
a
cynhyrchion gwaed y bwriedir eu bwydo i anifeiliaid a ffermir nad ydynt yn cnoi cil ; neu
b
blawd gwaed, a fwriedir i'w fwydo i bysgod,
sicrhau bod y gwaed yn dod o ladd-dy sydd wedi ei gofrestru gyda Gweinidogion Cymru at ddibenion pwynt D(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned a naill ai —
c
na ddefnyddir y lladd-dy i gigydda anifeiliaid cnoi cil; neu
ch
bod system rheoli wedi ei sefydlu yn unol â'r ail baragraff ym mhwynt D(a) o'r Rhan honno i sicrhau y cedwir gwaed anifeiliaid cnoi cil ar wahân i waed anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil a'i fod wedi cael ei awdurdodi at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru.
2
Rhaid i feddiannydd y lladd-dy draddodi'r gwaed yn unol â phwynt D(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned, a rhaid i unrhyw gludydd ei gludo yn unol â'r pwynt hwnnw.
3
Rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed wneud hynny yn unol â naill ai'r paragraff cyntaf neu'r ail baragraff o bwynt D(b) o'r Rhan honno.
4
Rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed at y defnydd a ddisgrifir yn yr ail baragraff o bwynt D(b) o Ran II of Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned—
a
fod wedi sefydlu'r system rheolaethau a bennir yn yr ail baragraff hwnnw i sicrhau y cedwir cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid cnoi cil ar wahân i gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil; a
b
bod wedi ei awdurdodi ar gyfer y diben gan Weinidogion Cymru.
5
Rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed wneud hynny—
a
yn unol â phwynt D(c) o'r Rhan honno, mewn sefydliad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw;
b
yn unol â phwynt D(c)(i) o'r Rhan honno, fel cynhyrchydd bwydydd cyfansawdd cartref a gofrestrwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw; neu
c
yn unol â phwynt D(c)(ii) o'r Rhan honno, mewn sefydliad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw.
6
Rhaid i unrhyw berson sy'n pecynnu'r bwydydd anifeiliaid eu labelu yn unol â phwynt D(d) o'r Rhan honno, a rhaid i unrhyw ddogfennau a anfonir gyda'r bwydydd anifeiliaid gydymffurfio â'r pwynt hwnnw.
7
Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo'r bwydydd anifeiliaid mewn llwythi mawr wneud hynny yn unol â phwynt D(e) o'r Rhan honno.
8
Rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio cerbyd, a ddefnyddiwyd yn flaenorol i gludo bwydydd anifeiliaid o'r math hyn, i gludo bwydydd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r ail frawddeg ym mhwynt D(e) o'r Rhan honno.
9
Rhaid i feddiannydd unrhyw fferm lle cedwir anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r paragraff cyntaf o bwynt D(f) o'r Rhan honno oni fydd Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y cydymffurfir â darpariaethau'r ail baragraff o'r pwynt hwnnw a'i fod wedi cofrestru'r fferm o dan y paragraff hwnnw.
Tramgwyddau sy'n ymwneud â bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed13
1
Mae peidio â chydymffurfio â pharagraff 12 yn dramgwydd.
2
Mae'n dramgwydd i unrhyw berson sy'n casglu gwaed yn unol â'r ail baragraff o bwynt D(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned beidio ag—
a
cigydda anifeiliaid yn unol â mewnoliad cyntaf y paragraff hwnnw;
b
casglu, storio, cludo neu becynnu gwaed yn unol ag ail fewnoliad y paragraff hwnnw; neu
c
samplu a dadansoddi gwaed yn rheolaidd yn unol â thrydydd fewnoliad y paragraff hwnnw.
3
Mae'n dramgwydd i unrhyw berson sy'n cynhyrchu cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed yn unol â'r ail baragraff o bwynt D(b) o'r Rhan honno beidio ag—
a
sicrhau y prosesir y gwaed yn unol â mewnoliad cyntaf y paragraff hwnnw;
b
cadw deunydd crai a chynnyrch gorffenedig yn unol ag ail fewnoliad y paragraff hwnnw; neu
c
samplu yn unol â thrydydd fewnoliad y paragraff hwnnw.
4
Mae'n dramgwydd i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid yn unol â phwynt D(c)(ii) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned—
a
beidio â sicrhau y gweithgynhyrchir bwydydd anifeiliaid yn unol â mewnoliad cyntaf y pwynt hwnnw;
b
beidio â sicrhau y'u cedwir mewn cyfleusterau ar wahân yn unol â'r ail fewnoliad; neu
c
beidio â gwneud a chadw cofnod yn unol â'r trydydd mewnoliad.
5
Mae'n dramgwydd i unrhyw un sy'n cynhyrchu bwyd cyfansawdd gartref sydd wedi ei gofrestru o dan baragraff 12(5)(b)—
a
gadw anifeiliaid cnoi cil lle y defnyddir cynhyrchion gwaed;
b
cadw anifeiliaid ac eithrio pysgod lle y defnyddir blawd gwaed;
c
traddodi bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed (boed yn gyflawn neu'n rhannol gyflawn) o'i ddaliad; neu
ch
defnyddio bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed gyda chyfanswm cynnwys protein o 50% neu fwy wrth gynhyrchu bwydydd anifeiliaid cyflawn.
Newid y defnydd o gyfarpar14
Mae'n dramgwydd defnyddio cyfarpar a ddefnyddiwyd i gynhyrchu bwydydd i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil o dan baragraffau 8, 10 neu 12, i gynhyrchu bwydydd i anifeiliaid cnoi cil, onid awdurdodir hynny mewn ysgrifen gan arolygydd.
Amodau sy'n gymwys i storio a chludo llwythi mawr o gynhyrchion protein a bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys proteinau o'r fath15
1
Mae'n dramgwydd storio neu gludo—
a
llwythi mawr o brotein anifeiliaid wedi'i brosesu (ac eithrio blawd pysgod); neu
b
llwythi mawr o gynhyrchion, gan gynnwys bwydydd anifeiliaid, gwrteithiau organig a deunyddiau gwella pridd sy'n cynnwys proteinau o'r fath,
ac eithrio yn unol â phwynt C(a) o Ran III o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned.
2
Mae'n dramgwydd storio neu gludo llwythi mawr o flawd pysgod, ffosffad deucalsiwm, ffosffad tricalsiwm, cynhyrchion gwaed sy'n tarddu o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil neu flawd gwaed sy'n dod o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil , ac eithrio yn unol â phwynt C(b) ac C(c) o Ran III o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned.
3
Yn ychwanegol at ofynion is-baragraffau (1) a (2), mae'n dramgwydd cludo llwythi mawr o brotein anifeiliaid wedi'i brosesu neu unrhyw un o'r deunyddiau a nodir yn is-baragraff (2) onid yw'r cludwr wedi ei gofrestru at y diben hwnnw gyda Gweinidogion Cymru.
Amodau sy'n gymwys i weithgynhyrchu a chludo bwydydd anifeiliaid anwes neu fwydydd anifeiliaid16
1
Mae'n dramgwydd gweithgynhyrchu, storio, cludo neu becynnu bwydydd anifeiliaid anwes sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed sy'n tarddu o anifeiliaid cnoi cil neu brotein anifeiliaid wedi'i brosesu, ac eithrio blawd pysgod, ac eithrio yn unol â phwynt D o Ran III o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned.
2
Mae'n dramgwydd gweithgynhyrchu neu gludo bwydydd anifeiliaid anwes sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu dricalsiwm neu gynhyrchion gwaed sy'n tarddu o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil ac eithrio yn unol â phwynt D o'r Rhan honno.
Allforio protein anifeiliaid wedi'i brosesu i drydydd gwledydd17
1
Yn unol â phwynt E(1) o Ran III o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned mae'n dramgwydd allforio protein anifeiliaid wedi'i brosesu sy'n deillio o anifeiliaid cnoi cil, ac unrhyw beth sy'n ei gynnwys.
2
Mae'n dramgwydd allforio protein anifeiliaid sydd wedi ei brosesu sy'n deillio o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil (ac unrhyw beth sy'n ei gynnwys) ac eithrio yn unol â phwynt E(2) o'r Rhan honno a chytundeb ysgrifenedig rhwng Gweinidogion Cymru ac awdurdod cymwys yn y drydedd gwlad.
Gwrteithiau18
1
Mae'n dramgwydd gwerthu neu gyflenwi i'w ddefnyddio fel gwrtaith ar dir amaethyddol, neu feddu gyda'r bwriad o werthu neu gyflenwi, unrhyw—
a
brotein mamalaidd (ac eithrio lludw) sy'n deillio o sgil-gynhyrchion anifeiliaid a ddosbarthwyd yn ddeunydd Categori 2 yn Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002; neu
b
lludw sy'n deillio o losgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a ddosbarthwyd yn ddeunydd Categori 1 yn y Rheoliad hwnnw.
2
Mae'n dramgwydd defnyddio unrhyw beth a waherddir yn is-baragraff (1) fel gwrtaith ar dir amaethyddol.
3
Yn y paragraff hwn—
a
ystyr “tir amaethyddol” (“agricultural land”) yw tir a ddefnyddir neu y gellid ei ddefnyddio at ddiben masnach neu fusnes sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth; a
b
mae “amaethyddiaeth” (“agriculture”) yn cynnwys tyfu ffrwythau, tyfu hadau, ffermio gwartheg godro a bridio a chadw da byw, defnyddio tir ar gyfer pori, doldir, tir gwiail helyg, defnyddio tir fel coetir, a garddwriaeth (ac eithrio lluosogi a thyfu planhigion mewn tai gwydr, strwythurau gwydr neu strwythurau plastig).
Cadw cofnodion ar gyfer cludo etc bwydydd gwrthodedig anifeiliaid anwes19
1
Rhaid i unrhyw berson sy'n cyflenwi, yn cludo neu'n derbyn unrhyw fwyd anifeiliaid anwes sy'n cynnwys protein anifeiliaid ac na fwriedir ei ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid anwes gofnodi—
i
enw'r gweithgynhyrchwr;
ii
y dyddiad cyflenwi a'r dyddiad derbyn;
iii
y fangre y tarddodd y bwyd anifeiliaid anwes ohoni a'i gyrchfan;
iv
maint y bwyd anifeiliaid anwes; a
v
natur y protein anifeiliaid a gynhwysir yn y bwyd anifeiliaid anwes.
2
Rhaid i'r person hwnnw gadw'r cofnodion hyn am 2 flynedd.
3
Rhaid i'r traddodwr sicrhau bod y bwyd anifeiliaid anwes wedi ei labelu â'r wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) neu yr anfonir dogfennau sy'n cynnwys yr wybodaeth honno ynghyd â'r bwyd hwnnw.
4
Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn euog o dramgwydd.
Trawshalogi deunyddiau sy'n tarddu o fangreoedd lle y defnyddir proteinau anifeiliaid wedi'i brosesu (ac eithrio blawd pysgod)20
1
Rhaid i unrhyw berson sy'n cyflenwi—
a
cynhwysyn, neu
b
cynnyrch bwyd anifeiliaid nad yw wedi ei nodi fel bwyd anifeiliaid anwes, ond sy'n cynnwys cynhwysyn,
gydymffurfio ag is-baragraff (2).
2
Rhaid i'r person hwnnw sicrhau bod —
a
naill ai label wedi ei gysylltu â'r pecyn sy'n cynnwys y cynhwysyn neu'r bwyd anifeiliaid; neu
b
unrhyw ddogfennau a anfonir ynghyd â'r cynhwysyn neu'r bwyd anifeiliaid,
yn dynodi bod y cynhwysyn wedi ei gynhyrchu mewn mangre lle defnyddir unrhyw brotein anifeiliaid wedi'i brosesu (ac eithrio blawd pysgod) mewn unrhyw broses weithgynhyrchu.
3
Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio ag is-baragraff (2) yn euog o dramgwydd.
4
Yn y paragraff hwn, ystyr “cynhwysyn” (“ingredient”) yw cynhwysyn sydd i'w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid a weithgynhyrchir mewn mangre lle y defnyddir unrhyw brotein anifeiliaid wedi'i brosesu ac eithrio blawd pysgod, mewn unrhyw broses weithgynhyrchu.