ATODLEN 6Bwydydd anifeiliaid
RHAN 2Cynhyrchu protein a bwydydd anifeiliaid
Trawshalogi deunyddiau sy'n tarddu o fangreoedd lle y defnyddir proteinau anifeiliaid wedi'i brosesu (ac eithrio blawd pysgod)20
1
Rhaid i unrhyw berson sy'n cyflenwi—
a
cynhwysyn, neu
b
cynnyrch bwyd anifeiliaid nad yw wedi ei nodi fel bwyd anifeiliaid anwes, ond sy'n cynnwys cynhwysyn,
gydymffurfio ag is-baragraff (2).
2
Rhaid i'r person hwnnw sicrhau bod —
a
naill ai label wedi ei gysylltu â'r pecyn sy'n cynnwys y cynhwysyn neu'r bwyd anifeiliaid; neu
b
unrhyw ddogfennau a anfonir ynghyd â'r cynhwysyn neu'r bwyd anifeiliaid,
yn dynodi bod y cynhwysyn wedi ei gynhyrchu mewn mangre lle defnyddir unrhyw brotein anifeiliaid wedi'i brosesu (ac eithrio blawd pysgod) mewn unrhyw broses weithgynhyrchu.
3
Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio ag is-baragraff (2) yn euog o dramgwydd.
4
Yn y paragraff hwn, ystyr “cynhwysyn” (“ingredient”) yw cynhwysyn sydd i'w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid a weithgynhyrchir mewn mangre lle y defnyddir unrhyw brotein anifeiliaid wedi'i brosesu ac eithrio blawd pysgod, mewn unrhyw broses weithgynhyrchu.