ATODLEN 6Bwydydd anifeiliaid
RHAN 2Cynhyrchu protein a bwydydd anifeiliaid
Gwrteithiau18
1
Mae'n dramgwydd gwerthu neu gyflenwi i'w ddefnyddio fel gwrtaith ar dir amaethyddol, neu feddu gyda'r bwriad o werthu neu gyflenwi, unrhyw—
a
brotein mamalaidd (ac eithrio lludw) sy'n deillio o sgil-gynhyrchion anifeiliaid a ddosbarthwyd yn ddeunydd Categori 2 yn Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002; neu
b
lludw sy'n deillio o losgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a ddosbarthwyd yn ddeunydd Categori 1 yn y Rheoliad hwnnw.
2
Mae'n dramgwydd defnyddio unrhyw beth a waherddir yn is-baragraff (1) fel gwrtaith ar dir amaethyddol.
3
Yn y paragraff hwn—
a
ystyr “tir amaethyddol” (“agricultural land”) yw tir a ddefnyddir neu y gellid ei ddefnyddio at ddiben masnach neu fusnes sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth; a
b
mae “amaethyddiaeth” (“agriculture”) yn cynnwys tyfu ffrwythau, tyfu hadau, ffermio gwartheg godro a bridio a chadw da byw, defnyddio tir ar gyfer pori, doldir, tir gwiail helyg, defnyddio tir fel coetir, a garddwriaeth (ac eithrio lluosogi a thyfu planhigion mewn tai gwydr, strwythurau gwydr neu strwythurau plastig).