Rheoliad 5
1.Hysbysu ynghylch TSE
2.Cyfyngu ar anifail sy'n destun hysbysiad
3.Cigydda anifail sydd dan amheuaeth
4.Cyfyngiadau ar symud
5.Gweithredu pan nad yw TSE wedi ei gadarnhau
6.Cadarnhad o TSE mewn defaid
7.Cadarnhad o TSE mewn geifr
8.Cadarnhad o BSE mewn defaid neu eifr
9.Cadarnhad o glefyd y crafu annodweddiadol mewn defaid neu eifr
10.Amser i apelio
11.Lladd a dinistrio yn dilyn cadarnhad
12.Anifeiliaid heintiedig o ddaliad arall
13.Pori ar dir comin
14.Nifer o ddiadelloedd ar un daliad
15.Meddianwyr dilynol
16.Dod ag anifeiliaid i ddaliad
17.Defnyddio cynhyrchion cenhedlol defaid
18.Symud anifeiliaid oddi ar ddaliad
19.Amseroedd cyfyngiadau symud
20.Marwolaeth anifail tra o dan gyfyngiad
21.Rhoi ar y farchnad epil defaid a geifr yr effeithiwyd arnynt gan BSE
22.Iawndal am ddafad neu afr a gigyddir fel anifail dan amheuaeth
23.Iawndal am anifeiliaid a leddir neu gynhyrchion a ddinistrir yn dilyn cadarnhad o TSE
24.Prisiadau
1.—(1) At ddibenion Erthygl 11 o Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i unrhyw berson sydd ag unrhyw ddafad neu afr yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth, sydd dan amheuaeth o fod wedi ei heffeithio gan TSE hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith a chadw'r anifail yn yr un fangre hyd nes archwilir yr anifail gan arolygydd milfeddygol.
(2) Rhaid i unrhyw filfeddyg sy'n archwilio unrhyw anifail o'r fath, hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.
(3) Rhaid i unrhyw berson (ac eithrio Gweinidogion Cymru) sy'n archwilio corff unrhyw ddafad neu afr neu unrhyw ran ohono, mewn labordy ac yn amau'n rhesymol bod TSE yn bresennol hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith, a chadw'r corff ac unrhyw rannau ohono yn ei feddiant hyd nes awdurdodir eu gwaredu gan arolygydd milfeddygol.
(4) Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
2.—(1) Os yw anifail yn destun hysbysiad o dan baragraff 1, yna, tra'n aros am benderfyniad a yw dan amheuaeth o'i effeithio gan TSE ai peidio, caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud yr anifail hwnnw o'r daliad, ac yn gwahardd symud unrhyw ddafad neu afr arall i'r daliad hwnnw neu oddi arno.
(2) Ni chaniateir symud anifeiliaid sydd dan gyfyngiad ac eithrio yn unol â rheoliad 16.
3.—(1) At ddibenion paragraffau (1) a (2) o Erthygl 12 o Reoliad TSE y Gymuned, os yw arolygydd milfeddygol yn amau bod dafad neu afr wedi ei heffeithio gan BSE, rhaid iddo naill ai —
(a)ei lladd ar y daliad ar unwaith;
(b)cyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud yr anifail o'r daliad hyd nes bo wedi ei ladd; neu
(c)cyflwyno hysbysiad yn cyfarwyddo'r perchennog i draddodi yr anifail i fangre arall i'w ladd, ac yn gwahardd symud ac eithrio yn unol â'r cyfarwyddyd hwnnw.
(2) Os lleddir yr anifail ar y daliad, mae symud yr anifail oddi ar y daliad hwnnw yn dramgwydd, ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig gan arolygydd.
4.—(1) At ddibenion pwynt 2(2) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned, ac Erthygl 12(1) o'r rheoliad hwnnw, yn dilyn amheuaeth o TSE (pa un ai mewn anifail byw neu drwy fonitro o dan Atodiad III o Reoliad TSE y Gymuned)—
(a)rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud i'w daliad neu oddi ar ei daliad unrhyw ddafad neu afr ar yr un daliad â'r ddafad neu afr a amheuir os yw'r arolygydd o'r farn y bu'r ddafad neu afr yn agored i TSE ar y daliad hwnnw;
(b)caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud unrhyw ddafad neu afr i, neu oddi ar, unrhyw ddaliad os oes tystiolaeth y bu'r anifail a amheuir yn agored i TSE ar y daliad hwnnw; ac
(c)rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud i, neu oddi ar, ddaliad lle y cedwir anifail fel a bennir ym mhwynt 1(b) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned, neu lle mae'r arolygydd yn amau y cedwir anifail o'r fath.
(2) Ni chaniateir symud anifeiliaid sydd dan gyfyngiad ac eithrio yn unol â rheoliad 16.
5. Os ceir cadarnhad nad oedd yr anifail wedi ei effeithio gan TSE, rhaid i'r arolygydd, cyn gynted ag y bo'n ymarferol yn rhesymol, dynnu'n ôl yr holl gyfyngiadau a osodwyd oherwydd yr anifail a oedd dan amheuaeth o'i heintio â TSE.
6.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan geir cadarnhad bod dafad, neu gorff dafad a fu'n destun monitro o dan Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned wedi ei effeithio gan TSE, a bod BSE wedi ei nacáu yn unol â'r weithdrefn a nodir ym Mhennod C, pwynt 3(2)(c) o Atodiad X i'r Rheoliad hwnnw, ac eithrio pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu arfer y pwer ym mharagraff 9(2).
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl—
(a)cynnal yr ymchwiliad a bennir yn Erthygl 13(1)(b) o Reoliad TSE y Gymuned ac ym mhwynt 1(b) o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw; a
(b)samplu'r anifeiliaid i ganfod eu genoteip (os oes angen),
benderfynu pa un o'r opsiynau a nodir ym mhwyntiau 2(3)(b)(i) a (2)(3)(b)(ii) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned y maent yn bwriadu ei arfer.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru wedyn gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y daliad, sy'n rhoi gwybod iddo pa un o'r opsiynau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei arfer.
(4) Rhaid i'r hysbysiad nodi—
(a)manylion adnabod yr anifeiliaid sydd i'w lladd a'u dinistrio;
(b)manylion adnabod yr anifeiliaid (os oes rhai) sydd i'w cigydda ar gyfer eu bwyta gan bobl;
(c)manylion adnabod yr anifeiliaid (os oes rhai) y caniateir eu cadw;
(ch)manylion adnabod unrhyw ofwm neu embryo sydd i'w ddinistrio; a
(d)y terfyn amser ar gyfer cydymffurfio â'r hysbysiad.
(5) Mae'r drefn apelio yn rheoliad 10 yn gymwys.
7.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os ceir cadarnhad bod gafr sydd dan amheuaeth, neu gorff gafr a fu'n destun monitro o dan Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned wedi cael eu heffeithio gan TSE, a bod BSE wedi ei nacáu yn unol â'r weithdrefn a nodir ym Mhennod C, pwynt 3(2)(c) o Atodiad X i'r Rheoliad hwnnw, ac eithrio pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu arfer y pwer ym mharagraff 9(2).
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cynnal yr ymchwiliad a bennir yn Erthygl 13(1)(b) o Reoliad TSE y Gymuned ac ym mhwynt 1(b) o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw, gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y daliad yn rhoi gwybod iddo bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu lladd neu ddinistrio'r holl eifr ar y daliad a'r holl embryonau ac ofa o'r anifeiliaid hynny yn unol ag Erthygl 13(1)(c), a phwynt 2.3(b)(i) o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw.
(3) Mae'r drefn apelio yn rheoliad 10 yn gymwys.
8.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan gadarnheir TSE mewn dafad neu afr a amheuwyd, neu gorff dafad neu afr a fu'n destun monitro o dan Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, ac nad oes modd nacáu BSE ar sail canlyniadau treial cylch a gynhaliwyd yn unol â'r weithdrefn a bennir ym Mhennod C, pwynt 3(2)(c) o Atodiad X i'r Rheoliad hwnnw.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cynnal yr ymchwiliad a bennir yn Erthygl 13(1)(b) o Reoliad TSE y Gymuned ac ym mhwynt 1(b) o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw, gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y daliad yn rhoi gwybod iddo bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu lladd a dinistrio'r anifeiliaid a dinistrio'r embryonau a'r ofa yn unol ag Erthygl 13(1)(c), a phwynt 2(3)(a) o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw.
(3) Mae'r drefn apelio yn rheoliad 10 yn gymwys.
9.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os y TSE a gadarnheir mewn dafad neu afr a amheuwyd, neu gorff dafad neu afr a fu'n destun monitro o dan Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, yw clefyd y crafu annodweddiadol, ac os yw BSE wedi ei nacáu yn unol â'r weithdrefn a nodir ym Mhennod C, pwynt 3(2)(c) o Atodiad X i'r Rheoliad hwnnw.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu peidio â chymhwyso paragraff 6 mewn perthynas â defaid, neu baragraff 7 mewn perthynas â geifr.
(3) Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymhwyso naill ai paragraff 6 neu 7, rhaid i Weinidogion Cymru, yn lle cydymffurfio â gofynion y paragraff hwnnw,—
(a)cynnal yr ymchwiliad a bennir yn Erthygl 13(1)(b) o Reoliad TSE y Gymuned ac ym mhwynt 1(b) o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw; a
(b)penderfynu pa un o'r opsiynau a nodir ym mhwyntiau 5(a) a 5(b) o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei arfer.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru wedyn gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y daliad, sy'n rhoi gwybod iddo pa opsiwn y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei arfer.
(5) Os yw Gweinidogion Cymru yn dewis yr opsiwn a nodir ym mhwynt 5(a) of Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i'r hysbysiad nodi—
(a)manylion adnabod yr anifeiliaid (os oes rhai) sydd i'w lladd neu eu dinistrio;
(b)manylion adnabod unrhyw ofa neu embryonau (os oes rhai) sydd i'w dinistrio; ac
(c)y terfyn amser ar gyfer cydymffurfio â'r hysbysiad.
(6) Os yw Gweinidogion Cymru yn dewis yr opsiwn a nodir ym mhwynt 5(b) of Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned, yna, am y ddwy flynedd fridio ar ôl canfod yr achos olaf o TSE, rhaid i'r meddiannydd—
(a)nodi pob dafad a gafr sydd ar y daliad; a
(b)peri i'r daliad fod destun y monitro dwysach ar gyfer TSE a nodir ym mhwynt 5(b)(ii) o'r Atodiad hwnnw,
ac y mae peidio â chydymffurfio â'r is-baragraff hwn yn dramgwydd.
(7) Ni chaiff neb anfon unrhyw anifeiliaid byw o deulu'r ddafad neu'r afr a nodwyd o dan is-baragraff (6)(a), nac embryonau neu ofa o anifeiliaid o'r fath, i Aelod-wladwriaeth arall nac i drydedd gwlad ac y mae peidio â chydymffurfio â'r is-baragraff hwn yn dramgwydd.
(8) Mae'r drefn apelio yn rheoliad 10 yn gymwys.
10. Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â bod wedi lladd unrhyw dafad neu afr nac wedi dinistrio unrhyw embryo neu ofwm o dan yr Atodlen hon—
(a)cyn cael eu hysbysu mewn ysgrifen gan y person y cyflwynwyd hysbysiad iddo nad oes bwriad gan y person hwnnw i fynd ymlaen i apelio;
(b)cyn diwedd y cyfnod o 21 diwrnod a ganiateir ar gyfer apêl o dan reoliad 10; neu
(c)os gwneir apêl, cyn i'r apêl gael ei phenderfynu neu ei thynnu yn ôl
11.—(1) Rhaid i arolygydd sicrhau bod yr holl anifeiliaid a nodir i'w lladd yn yr hysbysiad ym mharagraffau 6(3), 7(2), 8(2) neu 9(4) yn cael eu lladd a bod yr holl ofa ac embryonau a nodwyd i'w dinistrio yn yr hysbysiad yn cael eu dinistrio.
(2) Os na leddir anifail yn y daliad, rhaid i arolygydd roi cyfarwyddyd ysgrifenedig i'r perchennog i'w draddodi i fangre arall i'w ladd fel y nodir yn y cyfarwyddyd.
(3) Pan leddir anifail o dan y paragraff hwn, mae'n dramgwydd symud y corff o'r fangre lle'i lladdwyd ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig gan arolygydd.
12. At ddibenion pwynt 2(4) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned, os daethpwyd â'r anifail heintiedig o ddaliad arall, caiff Gweinidogion Cymru weithredu yn unol â'r Atodlen hon mewn perthynas â'r daliad y tarddodd yr anifail ohono yn ogystal â'r daliad lle cadarnhawyd yr haint, neu yn lle'r daliad hwnnw.
13. Yn achos anifeiliaid heintiedig ar dir pori comin, caiff Gweinidogion Cymru gyfyngu hysbysiad o dan baragraffau 6(3), 7(2), 8(2) neu 9(4) i ddiadell unigol yn unol â phwynt 2(4) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned.
14. Os cedwir mwy nag un ddiadell ar un daliad, caiff Gweinidogion Cymru gyfyngu hysbysiad o dan baragraffau 6(3), 7(2), 8(2) neu 9(4) i ddiadell unigol yn unol â phwynt 2(4) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned.
15. Os newidir meddiannaeth y daliad, rhaid i'r meddiannydd blaenorol sicrhau bod y meddiannydd dilynol yn gwybod am fodolaeth a chynnwys unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan yr Atodlen hon, ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.
16. Mae unrhyw berson sy'n rhoi anifail ar ddaliad yn groes i bwynt 3(1) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned yn euog o dramgwydd.
17. Mae unrhyw berson sy'n defnyddio cynhyrchion cenhedlol defaid yn groes i bwynt 3(2) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned yn euog o dramgwydd.
18. Mae unrhyw berson sy'n symud anifail oddi ar ddaliad yn groes i bwynt 3(3) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned yn euog o dramgwydd.
19. At ddibenion pwynt 3(4) of Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu'r dyddiadau perthnasol, a hysbysu meddiannydd y daliad o'r dyddiadau hynny mewn ysgrifen.
20. Os bydd farw neu os lleddir unrhyw anifail sy'n 18 mis oed neu'n hŷn, tra bo dan gyfyngiad am unrhyw reswm o dan yr Atodlen hon neu Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i'r perchennog hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith, a chadw'r corff yn yr un fangre hyd nes caiff gyfarwyddiadau ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru i'w symud neu i'w waredu, ac y mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn neu beidio â chydymffurfio â chyfarwyddyd o dan y paragraff hwn yn dramgwydd.
21. Mae unrhyw berson sy'n rhoi unrhyw ddefaid neu eifr yr effeithiwyd arnynt gan BSE ar y farchnad yn groes i Erthygl 15(2) o Reoliad TSE y Gymuned a Phennod B o Atodiad VIII i'r Rheoliad hwnnw yn euog o drosedd.
22.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu iawndal yn unol â'r paragraff hwn am ddafad neu afr a leddir fel anifail dan amheuaeth.
(2) Os ceir cadarnhad bod yr anifail wedi ei effeithio gan TSE, yr iawndal yw —
(a)£30 yn achos anifail ar ddiwedd ei oes gynhyrchiol; a
(b)£90 mewn unrhyw achos arall.
(3) Pan na cheir cadarnhad bod yr anifail wedi ei effeithio gan TSE, yr iawndal yw'r uchaf o'r canlynol—
(a)y swm a fyddai wedi bod yn daladwy o dan y paragraff hwn pe byddid wedi cael cadarnhad bod yr anifail wedi ei effeithio gan TSE; a
(b)y swm sy'n ymddangos i Weinidogion Cymru ar ôl ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd gan berchennog yr anifail, ac unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol, ei fod yn adlewyrchu gwerth yr anifail ar y farchnad, yn ddarostyngedig i uchafswm o £400 am bob anifail.
23. Rhaid i Weinidogion Cymru dalu iawndal i berchennog anifeiliaid a leddir a chynhyrchion a ddinistrir o dan yr Atodlen hon yn dilyn cadarnhau TSE, yn unol â'r darpariaethau sy'n dilyn yn y paragraff hwn—
Anifail neu gynnyrch | Iawndal (£) |
---|---|
Dafad neu afr (gwryw) | 90 |
Dafad neu afr (benyw) | 65 |
Oen (o dan 12 mis oed) neu fyn (o dan 12 mis oed) | 40 |
Embryo | 150 |
Ofwm | 5 |
24.—(1) Os yw perchennog anifail o'r farn bod yr iawndal yn y paragraff blaenorol yn afresymol, caiff hysbysu Gweinidogion Cymru o hynny, ac yna bydd y weithdrefn yn rheoliad 11 yn gymwys, gyda'r perchennog yn talu unrhyw ffi sy'n codi o enwebu a chyflogi prisiwr.
(2) Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod yr iawndal yn y paragraff blaenorol yn ormodol, caiff Gweinidogion Cymru fynnu prisio'r anifail yn unol â'r weithdrefn yn rheoliad 11, ond rhaid iddynt hefyd dalu unrhyw ffi sy'n codi o enwebu a chyflogi prisiwr.
(3) Rhaid i'r prisiwr brisio'r anifail yn unol â'r pris y gellid yn rhesymol fod wedi ei gael am yr anifail gan brynwr yn y farchnad agored pe na bai anifail yn tarddu o ddiadell yr effeithiwyd arno gan TSE.