ATODLEN 3Rheoli a dileu TSE mewn anifeiliaid buchol

Cigydda anifail sydd dan amheuaeth3

1

At ddibenion paragraffau (1) a (2) o Erthygl 12 o Reoliad TSE y Gymuned, os yw arolygydd milfeddygol yn amau bod anifail buchol wedi ei effeithio gan BSE, rhaid iddo naill ai—

a

ei ladd ar y daliad ar unwaith;

b

tynnu pasbort gwartheg yr anifail yn ôl a chyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud yr anifail o'r daliad hyd nes bo wedi ei ladd; neu

c

sicrhau bod pasbort gwartheg yr anifail wedi ei stampio â'r geiriau “Not for human consumption” a chyflwyno hysbysiad sy'n cyfarwyddo'r perchennog i draddodi yr anifail i fangre arall i'w ladd, ac yn gwahardd symud yr anifail ac eithrio yn unol â'r cyfarwyddyd hwnnw.

2

Rhaid iddo gyfyngu ar symud anifeiliaid buchol eraill o'r daliad yn unol â'r ail, y trydydd a'r pumed paragraff o Erthygl 12(1) o Reoliad TSE y Gymuned fel y'i darllenir ynghyd ag Erthygl 2(1)(a) o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC.

3

Caiff gyfyngu ar symud anifeiliaid buchol ar ddaliadau eraill yn unol â'r pedwerydd paragraff o Erthygl 12(1) o Reoliad TSE y Gymuned.

4

Os lleddir yr anifail ar y daliad, mae symud yr anifail oddi ar y daliad hwnnw yn dramgwydd, ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig gan arolygydd.

5

Os na leddir yr anifail ar unwaith, rhaid i geidwad yr anifail gael gwared â'i laeth mewn ffordd sy'n sicrhau na chaiff ei yfed na'i fwyta gan bobl na chan anifeiliaid ar wahân i lo yr anifail ei hunan neu anifeiliaid a gedwir at ddibenion ymchwil, ac y mae peidio â chydymffurfio â'r is-baragraff hwn yn dramgwydd.