xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
8.—(1) Rhaid i'r DGW (fel y'i diffinnir ym mharagraff 5(1)) ddisgrifio'r system sy'n—
(a)galluogi adnabod anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 a sicrhau na chânt eu cigydda i'w bwyta gan bobl;
(b)galluogi adnabod anifeiliaid buchol sydd dros 30 mis oed ond a anwyd ar 1 Awst 1996 neu ar ôl hynny a sicrhau eu bod yn cael eu samplu yn unol â'r Atodlen hon; ac
(c)galluogi adnabod anifeiliaid buchol a nodwyd ym mhwynt 2(1) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned a sicrhau eu bod yn cael eu samplu yn unol â'r Atodlen hon.
(2) Rhaid iddo hefyd ddisgrifio'r system sy'n sicrhau bod anifeiliaid dros 30 mis oed—
(a)yn cael eu gosod mewn grwpiau gyda'i gilydd cyn eu cigydda, ar wahân i anifeiliaid sy'n 30 mis oed neu'n iau; a
(b)yn cael eu cigydda mewn grwpiau ar wahân i' anifeiliaid sy'n 30 mis oed neu'n iau.
9.—(1) Rhaid i'r DGW ddangos bod—
(a)digon o staff wedi'u hyfforddi ac yn gymwys i gymryd, labelu, pecynnu ac anfon allan samplau o goesyn yr ymennydd;
(b)cyfleusterau hylan ar gyfer samplu; ac
(c)gweithdrefnau ar gyfer samplu nad ydynt yn peryglu trefn hylan o gynhyrchu cig a fwriedir i'w fwyta gan bobl.
(2) Rhaid iddo ddisgrifio'r modd y cydymffurfir â chanllawiau iechyd a diogelwch a gynlluniwyd ar gyfer lleihau'r risg o ddod â'r staff i gyffyrddiad â TSE wrth samplu a phecynnu coesyn yr ymennydd.
10. Rhaid i'r DGW ddisgrifio'r system sy'n cysylltu'r sampl o goesyn ymennydd pob anifail buchol dros 30 mis oed â charcas yr anifail hwnnw a phob rhan o gorff yr anifail hwnnw (gan gynnwys y gwaed a'r croen).
11. Rhaid i'r DGW ddisgrifio—
(a)y system sy'n sicrhau y cedwir yr holl garcasau a gedwir yn unol â pharagraff 6(1) o'r Atodlen hon naill ai mewn uned oeri sydd wedi ei selio neu ei chloi, neu ar reilen wedi ei selio neu ei chloi oddi mewn i uned oeri nad yw wedi ei selio, hyd nes ceir canlyniad y prawf;
(b)y system sy'n sicrhau y gellir canfod y drefn gronolegol y cigyddwyd yr anifeiliaid ynddi; ac
(c)sut y bydd y meddiannydd yn sicrhau bod digon o le addas yn yr uned oeri ar gyfer cadw carcasau at bwrpas yr Atodlen hon.
12. Rhaid i'r DGW ddisgrifio'r system sy'n sicrhau y cedwir pob rhan o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) yn unol â pharagraff 6(1) o'r Atodlen hon.
13. Rhaid i'r DGW ddisgrifio'r llwybr gwaredu ar gyfer pob carcas a phob rhan o gorff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) a gedwir tra'n disgwyl canlyniad prawf ond a waredir cyn derbyn canlyniad y prawf.
14. Rhaid i'r DGW ddisgrifio'r systemau sydd wedi eu sefydlu i sicrhau—
(a)y pecynnir samplau o goesyn yr ymennydd yn unol â chyfarwyddiadau pecynnu P650 o Gytundeb Ewrop ynglŷn â Chludiant Rhyngwladol Nwyddau Peryglus ar y Ffyrdd (y fersiwn sy'n gymwys o 1 Ionawr 2005)(1);
(b)y derbynnir canlyniadau'r profion naill ai drwy ffacs neu drwy ddulliau electronig eraill; ac
(c)bod popeth y mae'n ofynnol ei waredu yn unol â phwynt 6(4) neu 6(5) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned neu o dan baragraff 6(2), 6(3) neu 6(4) o'r Atodlen hon yn cael ei adnabod a'i waredu yn unol â hynny.
15. Rhaid i'r DGW ddisgrifio'r system sy'n sicrhau, mewn achos pan geir canlyniad prawf negyddol ar gyfer anifail buchol—
(a)nad yw'r rhannau hynny o asgwrn y cefn sy'n ddeunydd risg penodedig yn cael eu tynnu ymaith yn y lladd-dy; a
(b)bod y cig sy'n cynnwys y deunydd risg penodedig hwnnw yn cael ei draddodi i safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 12(1)(a) o Atodlen 7 i'w dynnu ymaith.
ISBN 92-1-139097-4.