ATODLEN 2Monitro TSE
RHAN 1Monitro ar gyfer TSE
Iawndal7
1
Os yw canlyniad prawf yn bositif ar anifail a gigyddwyd i'w fwyta gan bobl, rhaid i Weinidogion Cymru dalu iawndal am y carcas a phob rhan o gorff (gan gynnwys gwaed a chroen)—
a
yr anifail hwnnw; a,
b
os dinistrir hwy oherwydd y canlyniad positif hwnnw, yr anifail a oedd yn union ragflaenu'r anifail hwnnw ar y llinell gigydda a'r ddau anifail a ddaeth yn union ar ei ôl.
2
Yr iawndal fydd y gwerth ar y farchnad, a sefydlir o dan y weithdrefn yn rheoliad 11, gyda'r meddiannydd yn talu unrhyw ffi am enwebu a chyflogi prisiwr.
3
Ni fydd iawndal yn daladwy mewn unrhyw achos arall.